Ar ôl curo Swydd Middlesex o saith wiced yng Nghaerdydd nos Wener – a gorffen ar frig y tabl – gêm gartref yn erbyn Swydd Gaerlŷr fydd gan Forgannwg yn rownd wyth ola’r T20 Blast nos Fercher.
Cipiodd y bowlwyr cyflym Michael Hogan a Marchant de Lange dair wiced yr un wrth i Forgannwg gyfyngu eu gwrthwynebwyr i 99-8 mewn 14 pelawd ar noson a gafodd ei chwtogi gan y glaw. Serch hynny, fe darodd yr Awstraliad Adam Voges 58 heb fod allan i’r ymwelwyr.
Ond cyrhaeddodd Morgannwg y nod gyda phelawd yn weddill wrth i Aneurin Donald daro 33 oddi ar 22 o belenni i osod y seiliau’n gynnar yn y batiad. Sicrhaodd y capten Jacques Rudolph (22 heb fod allan) a Chris Cooke (25 heb fod allan) fod Morgannwg yn croesi’r llinell heb fawr o drafferth yn y pen draw, gyda phartneriaeth o 46.
Doedd dim criced yn bosib cyn 8.20pm oherwydd y glaw, ond fe fyddai gêm gyfartal – a phwynt – yn ddigon i osod Morgannwg ar frig y tabl pe na bai’r gêm wedi cael ei chynnal. Ond roedd angen i’r ymwelwyr chwarae ac ennill er mwyn bod â gobaith o gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Gêm – o’r diwedd!
Ond Morgannwg gafodd y fantais o’r cychwyn cyntaf, wrth gipio wiced gyntaf Swydd Middlesex oddi ar bedwaredd pelen y gêm. Fe wnaeth Paul Stirling ddarganfod dwylo diogel Michael Hogan yn safle’r trydydd dyn oddi ar fowlio Marchant de Lange. Bum pelen yn ddiweddarach, cafodd John Simpson ei ddal ar yr ochr agored gan Rudolph, oedd wedi rhedeg am yn ôl i gael ei afael ar y bêl.
Cipiodd Colin Ingram ddaliad campus yn y slip i waredu Eoin Morgan oddi ar belen gynta’r drydedd pelawd oddi ar fowlio Marchant de Lange, a’r ymwelwyr yn 7-3. Cafodd Stephen Eskinazi ei fowlio gan Michael Hogan yn y bedwaredd pelawd, a Swydd Middlesex mewn dyfroedd dyfnion ar 17-4.
Ar ôl ychydig o oedi oherwydd y glaw, cafodd cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, James Franklin ei fowlio gan de Lange yn y bumed pelawd, wrth i’r ymwelwyr lithro i 24-5. Cipiodd Marchant de Lange ddaliad campus ar y ffin oddi ar fowlio Craig Meschede, ond fe fu’n rhaid iddo daflu’r bêl i ffwrdd er mwyn osgoi ildio chwech rhediad ar ymyl y ffin.
Ond doedd hi ddim yn hir cyn i Ryan Higgins golli ei wiced go iawn, pan yrrodd i ddwylo Aneurin Donald ar ochr y goes oddi ar fowlio Graham Wagg am 16 yn yr unfed belawd ar ddeg. Erbyn hynny, roedd yr ymwelwyr yn 68-6. Serch hynny, roedd rhywfaint o sefydlogrwydd i’r Saeson wrth i Adam Voges gyrraedd ei hanner canred yn y ddeuddegfed pelawd oddi ar 24 o belenni, gan daro saith pedwar.
Sgôr parchus
Tarodd Tim Southee chwech mwya’r batiad wrth iddo glatsio pelen gan Graham Wagg dros y ffin ar ochr y goes yn y belawd olaf ond un, a’r ymwelwyr wedi llwyddo i gyrraedd 93-6. Ond fe gollodd y batiwr ei wiced wrth daro’r bêl i’r awyr oddi ar ymyl y bat, a Wagg yn cipio’r daliad.
Roedd Tom Helm, a dreuliodd gyfnod ar fenthyg gyda’r Cymry yn 2014, yn ffodus i oroesi pan gafodd ei ollwng gan Aneurin Donald dair pelen yn ddiweddarach, ond fe gafodd ei redeg allan wrth i’r Saeson orffen y batiad ar 99-8.
Ymateb Morgannwg
Wrth gwrso 100 am y fuddugoliaeth, dechreuodd Morgannwg yn gryf wrth i Aneurin Donald daro cyfres o ergydion i’r ffin oddi ar fowlio Tom Helm, ac roedd y Cymry’n 28-0 ar ôl pedair pelawd – mwy na chwarter y nod. Parhaodd Donald i glatsio oddi ar y troellwr Nathan Sowter wrth i Forgannwg gyrraedd 49-0 ar ôl chwe phelawd.
Ond cafodd Donald ei ddal gan Eoin Morgan oddi ar fowlio Ryan Higgins am 33 cyn i Sowter ddal Nick Selman am 16 yn yr un belawd. Erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, roedd Morgannwg yn 52-2 cyn i Sowter ddal Colin Ingram oddi ar fowlio Paul Stirling am dri.
Ar ôl colli wicedi’n gyflym, arafodd Morgannwg eu cyfradd sgorio rywfaint, ac roedd angen 31 arnyn nhw oddi ar 24 o belenni. Tarodd Jacques Rudolph bedwar oddi ar Tom Helm i lawr ochr y goes wrth i Forgannwg gyrraedd 78-3 ar ddiwedd yr unfed belawd ar ddeg.
Roedd angen 22 o rediadau arnyn nhw oddi ar y 18 pelen olaf, ac fe sgorion nhw 12 yn y ddeuddegfed pelawd gan Steven Finn. Y nod erbyn hynny oedd 10 oddi ar 12 pelen.
Cyrhaeddon nhw’r nod gyda phelawd yn weddill wrth i Jacques Rudolph orffen ar 22 heb fod allan, a Chris Cooke yn 25 heb fod allan wrth adeiladu partneriaeth o 46 i sicrhau’r fuddugoliaeth.