Gyda’r Barri yn dechrau’r tymor yn Uwch-gynghrair Cymru wythnos nesa mae clwb arall o’r De sydd wedi cael yr un trafferthion yn gobeithio eu hefelychu’r  tymor hwn yng nghynghrair  y de.

Mae clwb pêl droed Llanelli yn dechrau’r tymor gartref yn erbyn Ffynnon Taf ddydd Sadwrn, 11 Awst, ac ar ôl cyfnod ansefydlog mae pethau’n edrych yn dda am y dyfodol.

Roedd Llanelli yn chwarae’n gyson yn Ewrop o 2006 -2007 tan 2012 -2013 gan guro Dinamo Tbilisi gartref cyn colli oddi cartref yn nhymor 2011-12. Ac enillodd y dwbl o’r Uwchgynghrair a chwpan Cymru yn 2007-08.

Ond bu’r clwb  o flaen yr Uchel  Lys ar Ebrill 22, 2013 ar ôl i’r adran Cyllid a Thollau gyflwyno deiseb i gau’r clwb i lawr oherwydd trafferthion ariannol. Mi wnaeth y cefnogwyr ail-ffurfio’r clwb ond roedd pethe’n edrych yn ddu iawn ar un adeg gyda’r posibilrwydd o orfod ymuno a chynghrair isel lleol. Ond, synnwyr cyffredin enillodd y dydd a chawsant ymuno a’r drydedd adran yn 2013-14. Mi wnaethon nhw ennill y gynghrair yno fel pencampwyr.

“Y gobaith yw gwneud  mor dda ag y gallwn ni, gyda’r uchelgais hir dymor o gyrraedd yr Uwchgynghrair pan rydan ni’n barod,” meddai Neil Dymock, ysgrifennydd y clwb,  wrth Golwg360.

“Mae’r torfeydd wedi bod yn wych gyda thua 350 yn ein gwylio gartref y tymor diwethaf, hefyd gyda gemau lleol y tymor hwn yn erbyn Llansawel, Port Talbot, Afan Lido a chwarae rhai gemau ar nos Wener, y gobaith yw bydd mwy yn  mynychu Parc Stebonheath.”

Lee Trundle

Yn amlwg seren y tîm yw cyn ymosodwr Abertawe, Lee Trundle. Roedd Trundle wedi ymddeol  tan alwodd y cochion ddechrau’r tymor diwethaf, a sgoriodd 50 o goliau i gyd yn cynnwys naw hat-tric.

“Mae Lee jyst yn mwynhau chwarae pêl droed, ac mae’n wych i’w gael o gwmpas y clwb, mae mor broffesiynol ac yn amlwg dal yn chwaraewr  da. Mae’n gweithio i Abertawe ar rai diwrnodiau o’r tymor felly mae’n rhaid i ni addasu. Tymor diwethaf mi sgoriodd goliau anhygoel.

“Mi fydd yn dipyn o brawf i ni’r tymor hwn ac yn fy marn i, Pen-y-bont ydy’r ffefrynnau. Dwi’n nabod y rheolwr Rhys Griffiths ers ei ddyddiau yma yn Llanelli, mae Rhys yn sicr isio llwyddo,” meddai.

Y tymor diwethaf roedd Llanelli wedi sgorio 108 o goliau ac ildio 29 yn unig, ac mi orffennodd y tymor heb golli gêm gynghrair yn ennill 23 a saith gem gyfartal.