Mae cyn-fatiwr a chadeirydd dewiswyr tîm criced Lloegr, Doug Insole wedi marw’n 91 oed.
Roedd ei benderfyniad i beidio â dewis Basil D’Oliveira, chwaraewr croenddu o Dde Affrica, ar gyfer taith tîm Lloegr i’r wlad honno yn 1968 yn ffactor pwysig yn y broses o wahardd De Affrica o’r byd chwaraeon am ddegawdau.
Roedd rhai yn credu bod y penderfyniad yn awgrymu nad oedd croeso i bobol groenddu yn Ne Affrica.
Roedd yn cael ei adnabod wrth y ffugenw ‘Mr Essex’, ac yntau wedi bod yn gapten, cadeirydd a llywydd ar y sir.
Fel chwaraewr, ymddangosodd Doug Insole mewn naw gêm brawf rhwng 1950 a 1957, gan daro canred yn erbyn De Affrica. Sgoriodd e 25,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa.
Roedd e hefyd yn ffigwr blaenllaw yn y byd gweinyddu criced yn Lloegr adeg cystadleuaeth ddadleuol Kerry Packer, ac yn llywydd ar yr MCC yn 2007.