Bafetimbi Gomis (Llun oddi ar gyfrif Twitter Abertawe)
Mae ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, Bafetimbi Gomis ar ei ffordd i Dwrci i gwblhau ei drosglwyddiad i dîm Galatasaray.
Fe gyhoeddodd y Ffrancwr lun ar ei dudalen Instagram heddiw yn dangos ei fod e ar awyren o Lyon.
Daeth cadarnhad gan glwb Galatasaray neithiwr fod trafodaethau ar y gweill.
Mae disgwyl i’r Elyrch dderbyn tua £2.5m am yr ymosodwr 31 oed a symudodd i Gymru o Lyon yn 2014.
Fe ddechreuodd ei yrfa yn ne Cymru fel eilydd i Wilfried Bony ond ar ôl iddo yntau symud i Man City, Bafetimbi Gomis oedd y dewis cyntaf ac fe sgoriodd e 17 gôl mewn 71 o gemau.
Serch hynny, aeth e ar fenthyg i Marseille y tymor diwethaf, gan sgorio 20 gôl mewn 31 o gemau yn y gynghrair.
Ar ei dudalen Instagram heddiw, dywedodd Bafetimbi Gomis fod ei “dudalen wedi troi”, a’i fod e am gael “profiad newydd”. Ond fe ddywedodd ei fod yn gadael “â chalon drom oherwydd rwy’n gadael ffrindiau, brodyr, stadiwm, dinas, teulu, dynion gwych”.
Ta-ta, Franck Tabanou
Yn y cyfamser, daeth cadarnhad fod y cefnwr chwith o Ffrainc, Franck Tabanou wedi dod i gytundeb ag Abertawe er mwyn cael ei ryddhau’n gynnar ar ôl chwarae mewn tair gêm gwpan yn unig ers iddo symud at yr Elyrch o St Etienne yn 2015.
Roedd ganddo flwyddyn yn weddill o’i gytundeb.
Croeso, Tammy Abraham
Wrth i Bafetimbi Gomis adael Abertawe, mae disgwyl i ymosodwr tîm dan 21 oed Lloegr, Tammy Abraham symud i’r Elyrch ar fenthyg am dymor.
Treuliodd ymosodwr Chelsea y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Bristol City, gan sgorio 23 gôl yn y Bencampwriaeth.
Mae disgwyl i’r trosglwyddiad gael ei gadarnhau pan fydd e’n dychwelyd o Ewro 2017, lle collodd Lloegr yn erbyn yr Almaen, sy’n golygu eu bod nhw allan o’r gystadleuaeth.
Sgoriodd Tammy Abraham yn ystod y gêm, ond fe fethodd o’r smotyn.
Arwyddo Roque Mesa
Mae disgwyl cadarnhad yn ystod y 48 awr nesaf hefyd fod yr Elyrch wedi arwyddo’r chwaraewr canol cae Roque Mesa o Las Palmas am £11.5 miliwn.
Roedd ei basio ymhlith y mwyaf cywir yn La Liga yn Sbaen y tymor diwethaf.