Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi cadarnhau bod y cefnwr de Angel Rangel a’r asgellwr Wayne Routledge ar gael ar gyfer y daith i Sunderland ddydd Sadwrn (3 o’r gloch).

Byddai buddugoliaeth yn y Stadium of Light yn gam mawr tuag at aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, wrth i Hull gystadlu â’r Elyrch i godi allan o’r safleoedd disgyn.

Pe bai’r Elyrch yn ennill a Hull yn colli yn erbyn Crystal Palace, byddai Abertawe’n ddiogel.

Hull sydd yn y ddeunawfed safle ar hyn o bryd, y tu fewn i’r safleoedd disgyn ar 34 o bwyntiau, a’r Elyrch yn ail ar bymtheg ac yn ddiogel fel mae’n sefyll ar 35 o bwyntiau.

Dydi Crystal Palace ddim yn ddiogel eto yn unfed ar bymtheg ar 38 o bwyntiau.

Torrodd Angel Rangel asgwrn yn ei droed yn y gêm yn erbyn Hull fis diwethaf ac roedd disgwyl na fyddai ar gael am weddill y tymor.

Dydy Wayne Routledge ddim wedi chwarae ers canol mis diwethaf yn dilyn anaf i’w dorllengig.

Cadarnhaodd Paul Clement wrth gwrdd â’r wasg heddiw fod y ddau wedi bod yn ymarfer gyda’r garfan cyn y gêm allweddol ddydd Sadwrn.

“Mae Angel Rangel a Wayne Routledge wedi dychwelyd i’r cae ymarfer, ond mater o ffitrwydd ar gyfer y ddwy gêm olaf fydd hi.

“Mae Routledge wedi ymarfer dros y dyddiau diwethaf ac mae un sesiwn ar ôl felly fe wnawn ni benderfyniad yfory [a fydd e’n dechrau].”

Sunderland

Beth bynnag fydd yn digwydd ddydd Sadwrn, mae Sunderland eisoes wedi disgyn o’r Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Ond mae Paul Clement wedi wfftio’r honiad nad yw’r gêm yn bwysig i’r gwrthwynebwyr.

“Byddan nhw eisiau gorffen yn gryf gartref o flaen eu cefnogwyr eu hunain. Mae unrhyw gêm yn yr Uwch Gynghrair yn anodd.

“Ond o’n safbwynt ni, byddwn ni’n gwthio a gwthio er mwyn cael y canlyniad cywir.”

Cefnogwyr

Bydd 3,000 o gefnogwyr Abertawe yn cael mynediad i’r gêm yn rhad ac am ddim ar ôl i’r capten Leon Britton a’i gyd-chwaraewyr dalu am yr holl docynnau ar ran y cefnogwyr.

Dywedodd Paul Clement mai penderfyniad Leon Britton oedd talu am y tocynnau.

“Syniad y capten oedd e i wneud rhywbeth i helpu’r cefnogwyr. Yn wreiddiol, [talu am] gludiant oedd y syniad, ond fe benderfynon nhw dalu am y tocynnau.

“Dw i’n deall bod yr holl docynnau wedi mynd ac mae’n wych meddwl y bydd gyda ni 3,000 o bobol yno.

“Mae’n gallu bod yn ddrud fel cefnogwr, yn enwedig pan y’ch chi’n teithio oddi cartref ac mae’n braf ein bod ni’n gallu helpu’r cefnogwyr a diolch iddyn nhw, oherwydd mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel ers i fi fod yma.”

Er gwaetha’r haelioni, mae rhai unigolion wedi mynd ati i geisio gwerthu’r tocynnau ar y we, ond “ychydig o achosion” a fu, yn ôl Paul Clement.

“Mae’n drueni. Ry’n ni eisiau i’r tocynnau fynd i gefnogwyr go iawn fydd yn mynd yno i gefnogi’r tîm. Maen nhw wedi bod yn wych a dw i’n falch fod ganddyn nhw rywbeth i’w gefnogi.

“Mae rhai gemau rhwystredig wedi bod yn ystod fy nghyfnod i yma, ond mae’n hanfodol nawr eu bod nhw’n ein cefnogi ni ac mae eu hangen nhw arnon ni i groesi’r llinell derfyn.

“Dydyn nhw ddim yn gallu chwarae na sgorio na thaclo, ond maen nhw’n gallu rhoi hwb i’r chwaraewyr wrth iddyn nhw flino neu mewn cyfnodau pan fyddan nhw o dan bwysau.

“Rhaid i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr gydweithio.”

Leon Britton

Yn ychwanegol at ddylanwad Leon Britton oddi ar y cae, mae gan y chwaraewr canol cae 34 rhan allweddol i’w chwarae yn y ddwy gêm olaf, yn ôl Paul Clement.

Pan gafodd y prif hyfforddwr ei benodi, fe gollodd Leon Britton ei le yn y tîm, gan fethu pob gêm rhwng mis Ionawr a mis Ebrill.

Ac fe gyfaddefodd Paul Clement wrth golwg360 heddiw y dylai fod wedi cynnwys capten y clwb yn y gêm yn erbyn Watford fis diwethaf, gêm yr oedd yr Elyrch wedi’i cholli o 1-0 yn Vicarage Road.

“Roedd Jack Cork yn gwneud yn dda yn y tîm ac wedyn fe gafodd ei anafu yn erbyn West Ham. Efallai mai dyna’r gêm y dylwn i fod wedi cynnwys Leon, yn erbyn Watford.

“Fe ddefnyddiais i Jay [Fulton] ar gyfer y gêm honno. Roedd gan Jay brofiad o wneud jobyn yn y tîm cyntaf a’r penderfyniad oedd fod Watford yn dîm corfforol. Dw i ddim yn dweud mai dyna oedd y peth cywir i’w wneud.

“Pan fo gyda ni Leon, Ki Sung-yueng a Tom Carroll yng nghanol y cae, dydyn nhw ddim yn gorfforol ond maen nhw’n bêl-droedwyr da ac maen nhw’n gallu chwarae o gwmpas pobol. Dyw chwaraewyr mawr yng nghanol y cae ddim yn hoffi hynny.

“Efallai mai dyna’r unig adeg y dylwn i fod wedi ei gynnwys e – un gêm yn gynt nag y gwnes i. Ond cyn hynny, ychydig iawn o bobol oedd yn cwestiynu’r ffaith nad o’n i’n cynnwys Leon ar draul Jack Cork.

“Ro’n i un gêm yn rhy hwyr. Wnaeth e aros ac aros ac ymarfer yn dda a chefnogi ei gyd-chwaraewyr ac roedd e’n broffesiynol iawn. Pan ddaeth e i mewn a chael ei gyfle, fe gymerodd e’r cyfle hwnnw. Roedd hi’n amhosib wedyn i fi beidio â’i chwarae fe.”

Wrth i Leon Britton ddod i ddiwedd ei yrfa, a rhai o’r chwaraewyr eraill yn ansicr o’u dyfodol tan bod tynged yr Elyrch yn fwy amlwg, mae Paul Clement wedi wfftio’r awgrym fod dyfodol rhai o’i chwaraewyr yn y fantol wrth edrych tuag at y tymor nesaf.

“Dyw hynny ddim yn rhywbeth dw i wedi ei ddefnyddio i ysgogi’r chwaraewyr ers i fod yma. Nid dyna’r math o awyrgylch dw i am ei greu. Yr awyrgylch dw i eisiau ei greu yw eich bod chi’n gwneud eich gorau dros y tîm, eich cyd-chwaraewyr a’r clwb.

“Byddai dweud yn wahanol yn mynd yn groes i’r holl bethau hynny. Mae’r chwaraewyr yn ymwybodol o hynny, hyd yn oed y rhai sydd heb chwarae ryw lawer.”