Mae Juventus wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd, ar ôl trechu Monaco o 4-1 dros ddau gymal.

Roedden nhw ar y blaen o 2-0 ar ôl y cymal cyntaf, ac roedden nhw’n edrych yn gyfforddus yn yr ail gymal yn Torino neithiwr.

Aethon nhw ar y blaen drwy Mario Mandzukic ar ôl 33 munud neithiwr, ac fe ddyblodd yr amddiffynnwr Dani Alves fantais ei dîm toc cyn hanner amser.

Daeth gôl gysur i’r Ffrancwyr drwy Kylian Mbappe ar ôl 68 munud, ond yr Eidalwyr sydd ar eu ffordd i Gymru fis nesaf.

Byddan nhw’n herio naill ai Atletico Madrid neu Real Madrid, fydd yn wynebu ei gilydd heno.