Bangor 3–2 Y Drenewydd
Sicrhaodd Bangor eu lle yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Ewropa gyda buddugoliaeth dros y Drenewydd yn y rownd gynderfynol ar Nantporth brynhawn Sadwrn.
Ar ôl gorffen tymor arferol Uwch Gynghrair Cymru’n bedwerydd, Bangor oedd â’r fantais o chwarae gartref a gwnaethant y mwyaf o hynny wrth i’r chwaraewr-reolwr, Gary Taylor-Fletcher, eu rhoi ar y blaen wedi dim ond pedwar munud.
Dyblodd Danny Nardiello fantais y tîm cartref wedi deuddeg munud cyn i’r Robiniaid daro nôl gyda dwy gôl gyflym, y naill i Luke Boundford a’r llall i Neil Mitchell.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ac felly yr arhosodd hi tan chwarter awr o’r diwedd pan rwydodd Taylor-Fletcher ei ail ef i ennill y gêm i’w dîm.
Bydd y Dinasyddion yn wynebu enillwyr y gêm rhwng Caerfyrddin a Met Caerdydd (ddydd Sul) am y fraint o gael cynrychioli Cymru yn Ewrop y tymor nesaf.
.
Bangor
Tîm: Roberts, Wilson, Gosset, Connolly, Miley, Roberts, Taylor-Fletcher, Allen, Nardiello, Rittenberg (Jackson 64’), Jones
Goliau: Taylor-Fletcher 4’, 75’, Danny Nardiello 12’
Cardiau Melyn: Nardiello 65’, Gosset 76’
.
Y Drenewydd
Tîm: Jones, Williams, Mills-Evans, Sutton, Price, Fletcher, Stephens, Kershaw (Kenton 62’), Mitchell (Edwards 84’), Boundford, Rushton
Goliau: Boundford 19’, Mitchell 26’
Cardiau Melyn: Mitchell 49’, Kershaw 54’, Mills-Evans 78’
.
Torf: 638