Wrecsam 0–1 Dagenham & Redbridge       
                              

Colli fu hanes Wrecsam yng ngêm gartref olaf y tymor yng Nghyngrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Dagenham & Redbridge a oedd yr ymwelwyr i’r Cae Ras ac roedd un gôl yn ddigon i’w hennill hi.

Daeth y gôl honno hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan beniodd Paul Benson groesiad jordan Maguire-Drew i gefn y rhwyd.

Mae’r canlyniad yn sicrhau lle’r ymwelwyr yn y gemau ail gyfle ond yn gadael Wrecsam yn y deuddegfed safle wrth i dymor siomedig arall ddirwyn i ben.

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Jennings (McLeod 64’), Riley (Shenton 46’), Rutherford, White, Barry, Carrington, Penn, Massanka, Smith (Allen 60’), Marx

.

Dagenham & Redbridge

Tîm: Cousins, Williams, Widdowson, Benson (Romain 85’), Robson, Doe, Howell, Maguire-Drew (Guttridge 74’), Boucaud, Whitley, Donnellan

Gôl: Benson 23’

.

Torf: 3,653