Abertawe 2–0 Stoke           
                                                               

Rhoddwyd hwb i obeithion Abertawe o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros Stoke ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Fernando Llorente a Tom Carroll a gafodd y goliau pwysig wrth i’r Elyrch aros o fewn dau bwynt i Hull.

Abertawe a ddechreuodd y gêm orau ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond deg munud diolch i beniad cadarn Llorente o gic gornel Gylfi Sigurdsson.

Parhau i reoli a wnaeth yr Elyrch o hynny tan hanner amser ond dechreuodd Stoke fymryn yn well wedi’r egwyl.

Yna, daeth trobwynt y gêm hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i Stoke fethu cic o’r smotyn funud yn unig cyn i Abertawe ddyblu eu mantais.

Cafodd Xherdan Shaqiri ei lorio yn y cwrt cosbi gan Federico Fernandez ond anelodd Marko Arnatovic ei gic dros y trawst o ddeuddeg llath.

A bu rhaid i’r ymwelwyr dalu’r pwyth yn llawn yn fuan wedyn wrth i ergyd Carroll o bellter ganfod cefn y rhwyd gyda chymorth gwyriad.

Roedd dwy gôl o fantais yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Elyrch a chadw eu gobeithion o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn fyw.

Y newyddion drwg i dîm Paul Clement a oedd y ffaith i Hull ennill hefyd, gartref yn erbyn Watford, gan olygu fod dau bwynt yn gwahanu’r ddau dîm o hyd ac Abertawe’n aros yn y tri safle isaf.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Kingsley, Fer (Ki Sung-yueng 20’), Britton (Baston 85’), Carroll, Ayew, Llorente (van der Horn 59’), Sigurdsson

Goliau: Llorente 10’, Carroll 70’

Cardiau Melyn: Carroll 45’, Naughton 61’

.

Stoke

Tîm: Butland, Johnson, Shawcross, Martins Indi, Pieters, Shaqiri, Cameron, Allen, Arnautovic (diouf 84’), Crouch, Berahino (Sobhi 77’)

Cardiau Melyn: Martins Indi 63’, Crouch 90’

.

Torf: 20,566