Jonathan Ford, prif weithredwr Cymdeithas Bel-droed Cymru (llun: CBDC)
Mae cyffro wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar oherwydd sylwadau Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, am y posibilrwydd o dîm pêl-droed merched y Deyrnas Unedig yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2020.

Dywedodd Jonathan Ford  wrth Radio Wales: “Rydan ni’n gweld y rhinweddau mwy nawr nag yn y gorffennol,” gan ychwanegu eu bod yn disgwyl penderfyniad “o fewn chwe mis.”

Roedd timau dynion a merched wedi cystadlu o dan faner y DU yng Ngemau 2012 yn Llundain, ond roedd gwrthwynebiad ffyrnig i gystadlu yn 2016 gan gymdeithasau Gogledd Iwerddon, Cymru ar Alban. Roeddan nhw wedi mynegi pryder y buasai  Tîm GB yn fygythiad i statws annibynnol y tair gwlad.

Er hynny, dywedodd Jonathan Ford bod fwy o ewyllys da i’r syniad o Ferched Cymru yn cymryd rhan yn 2020.

“Dw i’n credu y byddai’n werth ystyried gadael ein chwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr gael y profiad o fynd i  brif gystadleuaeth, gan gynnwys y Gemau Olympaidd. Gawn ni weld lle mae’r sgyrsiau yn mynd a ni,” meddai.

Dywedodd yr awdur, Phil Stead:  “Mae gen i ffydd yn Jonathan Ford. Dydy o erioed wedi gadael ni lawr o blaen, a dydw i ddim yn gallu dychmygu bysa fo’n ystyried newid safbwynt y gymdeithas heb bwysau allanol gwleidyddol. Ond mae’n rhaid bod yn glir – dylen ni ddim derbyn ffurfio unrhyw Tîm GB – dynion neu fenywod. Mae dyfodol  y DU yn ansicr, ac mae’n rhaid i ni amddiffyn ein hannibyniaeth pêl-droed.”

Mae Elin Thomas, o Dal-y -ont ger Harlech o’r farn  mai “un tîm ydym ni, un genedl, un Gymru. Ni ddylid gwahanu’r menywod o’r dynion.  Prosiect yw hwn er lles y Saeson yn unig.”

Ac dywedodd yr awdur, Dewi Prysor: “Dwi’n synnu fod y Gymdeithas yn ystyried cytuno. Yr un ydi’r egwyddor boed i dîm y merched neu’r dynion. Yr un cynsail fydd ar waith, a’r un bygythiad i’n hannibyniaeth fel cenedl bêl-droed. Yr ateb syml ydi sgrapio Tîm GB a chaniatáu i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gystadlu yn yr Olympics fel yng Ngemau’r Gymanwlad.”