Blackburn 1–1 Caerdydd     
                                                             

Cipiodd Blackburn bwynt gyda gôl hwyr wrth i Gaerdydd ymweld â Pharc Ewood yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Roedd yr Adar Gleision o fewn munudau i ddychwelyd i dde Cymru gyda’r tri phwynt diolch i gôl hanner cyntaf Kenneth Zohore, ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt wedi ymdrech hwyr Derrick Williams.

Roedd Sam Gallagher eisoes wedi dod yn agos i’r tîm cartref cyn i Zohore roi’r ymwelwyr ar y blaen gyda foli daclus o groesiad Junior Hoilett saith munud cyn yr egwyl.

Blackburn a gafodd y gorau o’r gêm wedi’r egwyl serch hynny ac roeddynt yn haeddu unioni ym munud olaf y naw deg pan reolodd Williams y bêl yn y cwrt cosbi cyn canfod cornel isaf y rhwyd.

Mae Caerdydd yn llithro un lle i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Blackburn

Tîm: Steele, Nyambe, Lenihan, Mulgrew, Williams, Feeney, Lowe, Guthrie (Akp[an 66’), Conway (Mahoney 55’), Emnes, Gallagher (Graham 57’)

Gôl: Williams 90’

.

Caerdydd

Tîm: McGregor, Richards, Morrison, Bamba, Bennett, Halford, Harris (John 70’), Wittingham, Ralls, Hoilett (Noone 76’), Zohore (Pilkington 82’)

Gôl: Zohore 38’

Cardiau Melyn: Harris 45’, Bennett 90’

.

Torf: 10,645