QPR 2–1 Caerdydd
Sgoriodd Jazz Richards i’w rwyd ei hun wrth i Gaerdydd golli yn erbyn QPR yn Loftus Road yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Gôl yr un oedd hi gyda deg munud yn weddill ond cipiodd y tîm cartref y pwyntiau i gyd wrth i amddiffynnwr Caerdydd a Chymru wyro’r bêl i’w rwyd ei hun.
Roedd Conor Washington eisoes wedi taro’r postyn i QPR cyn i Sol Bamba benio Caerdydd ar y blaen o gic gornel Craig Noone ym munud olaf yr hanner cyntaf.
Bu bron i Kenneth Zohore ddyblu mantais yr ymwelwyr ond roedd y tîm cartref yn gyfartal toc wedi’r awr wrth i Yeni N’Gbakoto gwblhau symudiad slic.
Roedd y Ffrancwr yn ei chanol hi eto wrth i’w dîm ennill y gêm saith munud o’r diwedd, ei gic gornel ef yn cael ei phenio gan Matt Smith ac yn gwyro i mewn oddi ar Richards druan.
Mae’r canlyniad yn gadael yr Adar Gleision yn ddeuddegfed yn nhabl y Bencampwriaeth, bump pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.
.
QPR
Tîm: Smithies, Onuoha, Hall, Lynch, Perch, Luongo (Morrison 76’), Goss (N’Gbakoto 58’), Bidwell, Mackie (Wszolek 81’), Washington, Smith
Goliau: N’Gbakoto 62’, Richards [g.e.h.] 83’
Cardiau Melyn: Luongo 40’, Perch 88’
.
Caerdydd
Tîm: McGregor, Connolly (Bennett 86’), Morrison, Bamba, Richards, Noone (Pilkington 72’), Gunnarsson (Halford 90’), Ralls, Harris, Hoilett, Zohore
Gôl: Bamba 45’
Cerdyn Melyn: Morrison 66’
.
Torf: 15,103