Billy O'Brien (Llun: Paul Greenwood/Propaganda)
Golwr o Gymru fydd yn ceisio atal Y Seintiau Newydd rhag cyrraedd rownd derfynol Cwpan IRN-BRU yfory, wrth iddyn nhw herio St Mirren yn Paisley.
Mae Billy O’Brien, sydd ar fenthyg o Manchester City, yn gwneud enw iddo’i hun yn ystod ei gyfnod ar fenthyg yn yr Alban, ac roedd yn allweddol yn y fuddugoliaeth o 2-0 dros Dundee yn y gwpan yn ei gêm gyntaf i’r clwb.
Arweiniodd y perfformiad hwnnw at ennill lle yn nhîm yr wythnos yr SPFL, a hynny ychydig wythnosau’n unig ar ôl i gapten ail dîm Manchester City benderfynu symud dros dro i’r Alban.
Dywedodd Billy O’Brien wrth wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Fe fu’r trosglwyddiad yn bopeth ro’n i wedi’i ddisgwyl, ac yn fwy na hynny, a bod yn onest.
“Mi ges i flas ar bêl-droed tîm cyntaf pan oeddwn i ar fenthyg efo Hyde yn y Vanarama Conference North, dim ond 17 oed oeddwn i ond o gael fy rhoi mewn awyrgylch mor gystadleuol, doedd dim teimlad gwell i’w gael na phan ddeuai tri o’r gloch ar b’nawn dydd Sadwrn.”
Er eu llwyddiant yn y gwpan, mae St Mirren yn canfod eu hunain yng nghanol brwydr i aros yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, ond mae’n her y mae Billy O’Brien yn edrych ymlaen ati.
“Dydy’r clwb ddim lle’r ydan ni am iddo fod, ond rydan ni mewn sefyllfa lle mae angen i ni guro gemau a dw i wrth fy modd efo hynny, felly gobeithio y gallwn ni gael canlyniadau da dros yr wythnosau i ddod.
“Mae gynnon ni nifer o gemau cwpan ar y ffordd, ond mae llawer o gemau ar ôl yn y gynghrair hefyd ac mi fyddan nhw i gyd fel ffeinal cwpan i ni gan ein bod ni mor awyddus i ddringo’r tabl; mae angen i ni guro gemau os ydan ni am aros yn y gynghrair hon, ond mae gynnon ni griw da o chwaraewyr yma ac alla i ddim aros i barhau â gweddill y tymor.”
Canmol y rheolwr
Mae Billy O’Brien yn barod i gydnabod y rhan y mae rheolwr St Mirren, Jack Ross wedi’i chwarae yn ei ddatblygiad.
“Dw i’n credu bod sgiliau rheoli’r rheolwr yn wych – mae cael ein trin cystal ag yr ydan ni gynno fo yn adrodd cyfrolau am y dyn.
“Dydy’r sefyllfa rydan ni ynddi ddim yn ddelfrydol, mi wyddon ni hynny, ond mae o’n ein cynnal ni, ein cadw ni’n hapus, mae o’n foi ffeind iawn ac yn hawdd mynd ato fo, ac mi wnaeth o roi croeso cynnes iawn i fi wrth i fi ymuno hefo nhw.”
Y Seintiau Newydd
Gwrthwynebwyr St Mirren yfory fydd Y Seintiau Newydd dan arweiniad Craig Harrison, ac mae Billy O’Brien yn sylweddoli maint y dasg sy’n wynebu ei dîm os ydyn nhw am guro’i gydwladwyr.
“Dw i wedi gweld cystal maen nhw wedi’i wneud y tymor yma a thros y tymhorau diwetha’, a does dim amheuaeth y bydd hon yn gêm anodd iawn i ni yn erbyn tîm sy wedi bod yn chwalu pwy bynnag yw eu gwrthwynebwyr nhw y tymor yma – byddan nhw ar eu gorau ar y diwrnod, ond rydan ni’n gyffro i gyd.”
Dyfodol disglair i Gymru?
Mae Billy O’Brien yn un o griw dethol o Gymry ifainc sy’n cael eu hystyried yn genhedlaeth nesa’r tîm cenedlaethol, ac mae’n credu y gallai ei berfformiadau’r tymor hwn osod y sylfeini ar gyfer y dyfodol.
“Mae tipyn o frwydro’n digwydd ac mae llawer o fechgyn yn gweithio’n galed ac felly, mi fyddai’n fraint iddyn nhw gael eu capiau cyntaf dros Gymru.
“Rydan ni gyd yn gwneud popeth fedrwn ni i gyrraedd y fan honno ac os ydan ni’n parhau i ddatblygu, mae gynnon ni siawns go dda o’i gwneud hi a dangos be fedrwn ni ei wneud.
“Mi fyddai’n golygu popeth i fi gyrraedd y fan honno, ond mae’r garfan yn gryf iawn bob tro maen nhw’n dod at ei gilydd, felly’r cyfan fedra i ei wneud ydy gwneud fy ngorau, ac mae o wedi cael ei brofi ers blynyddoedd, os ydach chi’n Gymro ac yn chwarae’n ddigon da yna mi gewch chi gyfle.
“Felly mi wna’i barhau i weithio’n galed i gael fy un i a gweld be sy’n digwydd.”
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Paisley am 4.10pm, a’r gêm yn fyw ar S4C o 3.45pm.