Tony Pulis (Llun: Wikipedia CCA3.0)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Stoke, Mark Hughes wedi dweud nad yw wedi ypsetio’n ormodol ar ôl i’w gydwladwr a rheolwr West Brom, Tony Pulis wrthod ysgwyd ei law ar ddechrau ac ar ddiwedd y gêm yn yr Uwch Gynghrair brynhawn dydd Sadwrn.

Enillodd West Brom y gêm o 1-0 yn yr Hawthorns fis ar ôl i’r ddau reolwr ffraeo ynghylch trosglwyddiad Saido Berahino i Stoke fis diwethaf.

Roedd y chwaraewr wedi’i wahardd rhwng mis Hydref a Rhagfyr, ac mae Mark Hughes yn honni na chafodd wybod am y gwaharddiad gan West Brom tan iddo ofyn am y sefyllfa.

Ond mae Tony Pulis wedi gwadu’r honiadau, ac mae West Brom yn mynnu nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

‘Cyfrifoldeb pwy yw e?’

Dywedodd Mark Hughes, er gwaetha’r ffrae, nad yw’n gwybod pam fod Tony Pulis wedi gwrthod ei gydnabod ar ddiwrnod y gêm.

“Wnes i mo’i weld e i ysgwyd ei law. Ro’n i ar yr ystlys am beth amser ar ôl y gêm. Cyfrifoldeb pwy yw e? Dw i ddim yn gwybod.

“Wnaeth e ddim ysgwyd fy llaw cyn y gêm ychwaith. Fel gwestai yn y clwb, byddwn i wedi meddwl y byddai e wedi dod draw i ‘nghroesawu i’r cae.

“Gyda’r rhan fwyaf o reolwyr, ry’ch chi’n anghytuno yn ystod y gêm ond fel arfer, ry’ch chi’n cael cwrw ar ôl [y gêm] ac yn bwrw ymlaen.

“Ry’ch chi wedi gweld diffyg ysgwyd llaw ond dw i ddim wedi ypsetio’n ormodol am y peth.”