Bristol City 2–3 Caerdydd   
                                                             

Cafodd Caerdydd fuddugoliaeth ddramatig wrth iddynt ymweld ag Ashton Gate i herio Bristol City yn y Bencampwriaeth amser cinio ddydd Sadwrn.

Cipiodd gôl hwyr Anthony Pilkington y tri phwynt i’r Adar Gleision er iddynt fod ar ei hôl hi ddwy waith yn y gêm.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth y tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner pan darodd ergyd Joe Bryan y trawst cyn gwyro i gefn y rhwyd oddi ar gôl-geidwad Caerdydd, Brian Murphy.

Roedd y Cymry’n gyfartal gydag ychydig dros chwarter awr i fynd diolch i gic o’r smotyn Anthony Pilkington yn dilyn trosedd Mark Little ar Joe Ralls.

Roedd Bristol City yn ôl ar y blaen ychydig funudau’n ddiweddarach wedi gôl Tammy Abraham ond yn ôl y daeth yr Adar Gleision drachefn.

Unionodd Kadeem Harris y sgôr cyn i Pilkington ei hennill hi gydag ergyd wych o bellter bum munud o ddiwedd y naw deg.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r ail safle ar bymtheg yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Bristol City

Tîm: Fielding, Hegeler, Flint, Wright, Little, Brownhill (Paterson 87’), Pack, Bryan, O’Dowda (Tomlin 87’), Djuric (Wilbraham 83’), Abraham

Goliau: Murphy [g.e.h.] 51’, Abraham 78’

Cerdyn Melyn: Little 90’

.

Caerdydd

Tîm: Murphy, Peltier, Connolly, Morrison, Bamba, Bennett (Harris 69’), Wittingham (Hoilett 69’), Gunnarsson, Ralls, Pilkington (Halford 88’), Zohore

Goliau: Pilkington [c.o.s.] 74’, 85’, Harris 82’

Cardiau Melyn: Bamba 35’, Wittingham 62’

.

Torf: 19,452