Paul Clement - yn barod ar gyfer ei her fawr y prynhawn yma
Mae prif hyfforddwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi bod yn paratoi i herio Arsenal ers peth amser.

Ond yn hytrach na chynorthwyo Carlo Ancelotti i gynllunio sut y gall Bayern Munich guro’r Gunners yng Nghynghrair y Pencampwyr fis nesaf, mae her o fath gwahanol o flaen Paul Clement wrth iddo arwain Abertawe yn yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf y prynhawn yma.

Fe fydd Bayern Munich yn herio Arsenal ar Chwefror 15 a 19 dros ddau gymal am le yn rownd wyth olaf prif gystadleuaeth Ewrop.

Ond y prynhawn yma, fe allai’r Elyrch godi allan o waelodion yr Uwch Gynghrair pe baen nhw’n llwyddo i gyflawni camp annisgwyl a sicrhau o leiaf bwynt yn erbyn y Llundeinwyr.

Er gwaetha’r ffaith fod yr heriau fydoedd ar wahân, yr un oedd y gwaith paratoi, yn ôl Paul Clement, oedd yn gwylio Arsenal yn erbyn West Brom ar Ddydd San Steffan.

“Mae gyda fi fy nodiadau. Ond bydda i’n eu defnyddio nhw ar gyfer Abertawe yn hytrach na Bayern.”

Mae Paul Clement yn hen gyfarwydd â herio Arsenal yn dilyn cyfnod ar dîm hyfforddi Chelsea o dan Carlo Ancelotti, rheolwr Bayern Munich, ac fe ddywedodd ei fod yn disgwyl “cystadleuaeth”.

“Dw i wedi cael gemau da yn eu herbyn nhw gyda Chelsea ac roedden nhw bob amser yn gystadlaethau da. Yr un yw’r nodiadau, jyst edrych ar yr hyn maen nhw’n ei wneud a gobeithio y gallwn ni fanteisio ar hynny.”

Mae e hyd yn oed wedi addo “anfon copi at Carlo”!

Arsène Wenger

Bydd hanes yn ailadrodd ei hun wrth i Paul Clement arwain Abertawe y prynhawn yma, gan mai yn erbyn Arsenal hefyd yr arweiniodd y cyn-reolwr Bob Bradley yr Elyrch am y tro cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.

Ond y gwahaniaeth y tro hwn yw fod Paul Clement wedi cael amser i ystyried y tîm a’r tactegau ar ôl eu gweld nhw’n colli o 2-0 yng Nghwpan yr FA yn Hull wythnos yn ôl.

Ac mae’n cyfaddef ei fod yn edrych ymlaen at herio rheolwr sydd wedi bod wrth y llyw yn Arsenal ers ugain mlynedd. Yn 1996, athro ysgol uwchradd oedd Paul Clement, ac yntau’n gweithio’n rhan amser fel hyfforddwr yng nghanolfan ragoriaeth Chelsea.

Ers hynny, mae e wedi cydweithio â Carlo Ancelotti yn Bayern Munich, Paris St Germain a Real Madrid, ac mae e wedi cael cyngor gan ei fentor i “ganolbwyntio ar yr anghenion a’r blaenoriaethau”.

“Peth o’n gwaith ni oedd symleiddio pethau, a dyna dw i’n credu mae’r chwaraewyr wedi bod yn chwilio amdano fe – ym mhob ffordd.”

Does dim syndod fod hyder y chwaraewyr yn isel, ar ôl iddyn nhw orfod addasu i ddulliau tri hyfforddwr gwahanol y tymor hwn – Francesco Guidolin ar ddechrau’r tymor, wedyn Bob Bradley am ddeufis o fis Hydref, a Paul Clement ers dechrau’r flwyddyn.

“Maen nhw wedi cael canlyniadau anodd iawn felly mae eu hyder nhw’n isel ac mae’n rhaid i ni eu codi nhw unwaith eto. A’r ffordd orau o wneud hynny yw paratoi’n dda.”

Ond am 3 o’r gloch y prynhawn yma, gwylio o’r ymylon fydd Paul Clement, ac yn nwylo’r chwaraewyr yn bennaf y bydd eu tynged.

Y timau

Mae disgwyl i Stephen Kingsley ddechrau yn safle’r cefnwr chwith ar ôl i Neil Taylor dorri asgwrn yn ei foch wrth ymarfer ddiwedd yr wythnos.

Ac mae eu hymosodwr newydd, Luciano Narsingh, sydd wedi ymuno o PSV Eindhoven am £4 miliwn, wedi anafu ei goes.

O ran yr ymwelwyr, mae Mesut Özil yn ôl yn y tîm ar ôl salwch, ond mae Hector Bellerin a Francis Coquelin wedi’u hanafu.

Fe fydd rhaid iddyn nhw ymdopi heb nifer o chwaraewyr blaenllaw eraill oherwydd anafiadau, gan gynnwys Santi Cazorla, Mohamed Elneny, Kieran Gibbs, Per Mertesacker a Theo Walcott.

Serch hynny, mae disgwyl i Petr Cech, Laurent Koscielny ac Alexis Sanchez ddychwelyd i’r tîm.

Mae’r ystadegau’n ffafrio Abertawe, sydd wedi ennill tair allan o’u pum gêm diwethaf yn erbyn Arsenal, ond y Gunners sydd wedi ennill tair allan o’r pedair gêm diwethaf yn Stadiwm Liberty.

Y tro diwethaf iddyn nhw gwrdd – gêm gyntaf Bob Bradley wrth y llyw – Arsenal oedd yn fuddugol o 3-2 yn Stadiwm Emirates.