Bob Bradley - neu Ronald Reagan? (Llun: Wikipedia)
Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi wfftio awgrymiadau bod y chwaraewyr yn ei alw’n ‘Ronald Reagan’, gan gyfeirio at y ffaith ei fod yn hyfforddwr hen ffasiwn o’r 1980au.
Cafodd yr Americanwr ei ddiswyddo ar Ragfyr 27 ar ôl 85 diwrnod yn unig wrth y llyw, yn dilyn dechrau siomedig i’r Elyrch, wrth iddyn nhw gwympo i waelod tabl yr Uwch Gynghrair o dan ei arweiniad.
Ond mewn cyfweliad â’r Times, mae’n gwadu bod y chwaraewyr yn ei gymharu â chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau.
“Credwch chi fi fan hyn, dyw’r un o’r chwaraewyr hynny ddim yn gwybod pwy yw Ronald Reagan.”
Rhybudd i Paul Clement
Fe rybuddiodd Bob Bradley y prif hyfforddwr newydd, Paul Clement, a gafodd ei benodi ddoe, fod cryn broblemau o fewn y clwb, gan gynnwys y berthynas rhwng y perchnogion Americanaidd – Jason Levien a Steve Kaplan – a’r cefnogwyr.
Ychwanegodd fod angen gwella’r tîm.
“Pan ydych chi’n cymryd drosodd gyda thîm ac ry’ch chi yn rhan honno’r tabl – yn union fel oedden ni pan gymerais i drosodd ar ôl Francesco [Guidolin] – mae rheswm am hynny.
“Y rheswm yw fod angen gwella’r tîm.”
Rhybuddiodd fod diffyg hyder gan y chwaraewyr yn eu gallu i ennill, a bod diffyg brwydro wedi digwydd.
“Rhan o’r hyn ddywedais i [wrth y bwrdd] oedd fod angen mwy o enillwyr arnon ni, mwy o bobol i frwydro, mwy o fois fyddai’n dod i mewn bob dydd yn awchu am wella.”
Gwerthu chwaraewyr allweddol
Ymhlith y chwaraewyr blaenllaw sydd wedi gadael y clwb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r capten Ashley Williams a’r ymosodwr Andre Ayew.
Ond dydy’r Elyrch ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i chwaraewyr sydd wedi cymryd at y gwaith ar unwaith.
“Pan fo tîm yn mynd trwy gyfnod anodd, mae angen pobol arnoch chi y gallwch chi ddibynnu arnyn nhw, pobol sy’n gryf, pobol fydd yn sefyll i fyny dros y tîm.”
Ond fe ddywedodd fod ei barodrwydd i leisio barn wedi gweithio yn ei erbyn yn y pen draw, a bod hynny wedi cyfrannu at ei ddiswyddo.
Collodd Abertawe o 4-1 yn erbyn West Ham ar Ddydd San Steffan cyn i Bob Bradley gael ei ddiswyddo.
Yn y ddwy gêm ers hynny, fe gawson nhw eu curo o 3-0 yn Bournemouth ddydd Sadwrn, cyn i Alan Curtis a’r prif hyfforddwr newydd, Paul Clement gydweithio i arwain yr Elyrch i fuddugoliaeth o 2-1 neithiwr yn Crystal Palace.
Mae’r canlyniad wedi eu codi nhw oddi ar waelod yr Uwch Gynghrair am y tro.