Wycombe 2–1 Casnewydd       
                                                      

Colli fu hanes Casnewydd yn yr Ail Adran brynhawn Llun er iddynt fynd ar y blaen yn erbyn Wycombe ar Adams Park.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Mark Randall y tîm o Gymru ar y blaen ar yr awr.

Daeth y cawr, Adebayo Akinfenwa, oddi ar y fainc i Wycombe wedi hynny a chreodd cyn chwaraewr y Barri ac Abertawe argraff yn syth gan greu gôl i Sam Wood.

Eilydd arall a sicrhaodd y tri phwynt i’r tîm cartref ddeg munud o’r diwedd wrth i Paris Cowan-Hall rwydo gydag ergyd o du allan i’r cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd ar waelod tabl yr Ail Adran.

.

Wycombe

Tîm: Brown, Jombati, Stewart, Pierre, Jacobson, Thompson (Cowan-Hall 69’), Gape, O’Nien, Wood, Weston (Kashket 69’), Hayes (Akinfenwa 69’)

Goliau: Wood 70’, Cowan-Hall 80’

Cerdyn Melyn: Thompson 54’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Barnum-Bobb, Jones, Meite, Bignot (O’Hanlon 85’), Myrie-Williams, Sheehan (Jebb 63’), Randall, Rigg (Owen-Evans 61’), Healey, Williams

Gôl: Randall 60’

Cardiau Melyn: Randall 44’, Myrie-Williams 82’, Jones 90’

.

Torf: 4,288