Caerdydd 1–0 Aston Villa           
                                                     

Roedd un gôl yn ddigon i Gaerdydd wrth iddynt guro Aston Villa yn y Bencampwriaeth brynhawn Llun. Joe Ralls a gafodd y gôl honno a hynny’n gynnar yn y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Chwarter awr yn unig a oedd ar y cloc pan agorodd Caerdydd y sgorio. Roedd hi’n draed moch yng nghwrt chwech Villa ac adlamodd y bêl yn ffodus braidd oddi ar Ralls i gefn y rhwyd.

Cafodd yr ymwelwyr ddigon o’r meddiant wedi hynny ond yr Adar Gleision a ddaeth agosaf at sgorio eto cyn yr egwyl. Tarodd Kenneth Zohore y trawst cyn i gynnig Craig Noone gael ei glirio oddi ar y llinell.

Villa a gafodd y gorau o’r gêm yn yr ail hanner ac roedd angen arbediad da gan Brian Murphy gydag ychydig o help gan y trawst i atal cic rydd Leandro Bacuna toc wedi’r awr.

Dal eu gafael a wnaeth Caerdydd er gwaethaf pwyso’r ymwelwyr ac mae’r fuddugoliaeth yn eu codi i’r pedwerydd safle ar bymtheg yn nhabl y Bencampwriaeth, dri phwynt yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Caerdydd

Tîm: Murphy, Peltier, Bamba, Morrison, Ecuele Manga, Bennett (Connolly 83’), Harris, Gunnarsson, Ralls, Hoilett (Noone 37’), Zohore

Gôl: Ralls 16’

Cardiau Melyn: Ralls 27’, Gunnarsson 57’, Bamba 64’, Peltier 74’

.

Aston Villa

Tîm: Bunn, Hutton, Chester, Baker, Amavi, Gardner (Agbonlahor 46’), Westwood (Tshibola 46’), Adomah, Grealish, Bacuna, McCormack (Hepburn-Murphy 82’)

Cardiau Melyn: Chester 42’, Grealish 60’, Bacuna 78’, Hutton 85’

.

Torf: 21,391