Bob Bradley - pwy ddaw i gymryd ei le?
Fe fydd clwb pêl-droed Abertawe yn trafod gyda rheolwr cynorthwyol Bayern Munich, Paul Clement, er mwyn ceisio’i ddenu i’r brif swydd yn Stadiwm Liberty.
Fe gadarnhaodd y clwb o’r Almaen fod yr Elyrch wedi gofyn am hawl i siarad gyda’r hyfforddwr o Sais 44 oed a’u bod nhw wedi cydsynio i hynny.
Gobaith Abertawe yw gallu penodi Paul Clement erbyn y gêm dyngedfennol yn erbyn Crystal Palace fory – er na fydd yn debyg o ddewis y tîm ar gyfer honno.
Y cefndir
Paul Clement yw’r ffefryn am y swydd ers diwedd yr wythnos ddiwetha’, ar ôl i reolwr Cymru, Chris Coleman, wneud yn glir nad oedd ganddo ddiddordeb.
Mae ganddo brofiad eang o weithio gyda rheolwr Bayern, Carlo Ancelotti, mewn clybiau mawr fel Chelsea, Paris St Germain a Real Madrid.
Os bydd yn dod i Gymru, fe fydd Paul Clement yn wynebu tasg anferth gydag Abertawe ar waelod yr Uwch Gynghrair gyda dim ond 12 pwynt.
Dim ond un clwb – West Brom – sydd wedi llwyddo i ddianc o sefyllfa waeth.