Llandudno 1–0 Bangor    
                                                                  

Roedd un gôl yn ddigon wrth i Landudno guro Bangor ar Barc Maesdu yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sul. Rhwydodd Marc Williams unig gôl y gêm i’r tîm cartref yn gynnar yn yr ail hanner.

Bangor a gafodd y gorau o hanner cyntaf di sgôr. Cafodd peniad Anthony Miley ei glirio oddi ar y llinell gan Danny Taylor a gwnaeth Dave Roberts arbediad da â’i wyneb i atal Danny Gosset yn y cwrt chwech.

Daeth Jamie Reed yn agos i’r ymwelwyr hefyd ond taro’r postyn a wnaeth ei hanner foli ef o ugain llath.

Y Dinasyddion a ddechreuodd yr ail hanner orau hefyd ond Llandudno a gafodd y gôl agoriadol a gôl dda oedd hi hefyd, Marc Williams yn rhwydo wedi sodliad cywir Leo Riley i’w lwbr yn y cwrt cosbi.

Cafodd y ddau dîm gyfle da tua chwarter awr o’r diwedd. Dylai Marc Williams fod wedi sgorio’i ail ef ond peniodd yn syth at Connor Roberts yn y gôl. Yn y pen arall fe beniodd Daniel Nardiello heibio’r postyn o groesiad Gary Roberts.

Rheiny a oedd y cyfleoedd olaf wrth i Landudno ddal eu gafael a chipio’r tri pwhynt.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw gobeithion Llandudno o chwarae yn y chwe uchaf yn ail hanner y tymor yn fyw o hyd. Maent bellach yn seithfed gydag un gêm i fynd cyn i’r gynghrair hollti. Mae Bangor ar y llaw arall yn aros yn bedwerydd.

.

Llandudno

Tîm: Roberts, Mike Williams, Joyce, Tom Williams, Taylor, Dix, Hughes (Evans 75’), Riley (McCafferey 90’), Marc Williams, Owen, Buckley

Gôl: Marc Williams 55’

Cerdyn Melyn: Owen 87’

.

Bangor

Tîm: Connor Roberts, Gary Roberts, Clowes, Miley, Hart (Nardiello 62’), Wilson (Edwards 84’), Gosset, Allen, Reed, Shaw, Higdon (Cavanagh 71’)

Cardiau Melyn: Gary Roberts 82’, Williams 90’

.

Torf: 598