Southport 3–2 Wrecsam                    
                                              

Ildiodd Wrecsam gôl hwyr wrth golli yn erbyn Southport ar Haig Avenue yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sul.

Dwy gôl yr un oedd hi gydag ychydig funudau i fynd ond rhwydodd Liam Nolan i gipio’r tri phwynt i Southport a thalu’r pwyth yn ôl wedi i’r Dreigiau ennill y gêm gyfatebol ar y Cae Ras ar ddydd Gŵyl San Steffan.

Rhoddodd Jordan White yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen wedi dim ond chwe munud ac felly yr arhosodd hi tan ddeg munud cyn yr egwyl.

Unionodd Nolan y sgôr cyn creu gôl i Delial Brewster ac roedd y tîm cartref ar y blaen wrth droi.

Felly yr arhosodd hi tan hanner ffordd trwy’r ail hanner pan unionodd John Rooney bethau i Wrecsam gyda chic o’r smotyn.

Ond cipwyd y pwynt oddi ar y Dreigiau pan rwydodd Nolan ei ail ef a thrydedd ei dîm ddau funud o ddiwedd y naw deg.

Mae Wrecsam yn llithro un lle i’r unfed safle ar bymtheg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Southport

Tîm: Norman, Ashton, Nolan, Jones, Allen (Caton 61’), Thompson, Brewster (McKenna 85’) , Weeks, J. Higgins, R.Higgins, Jones (McKeown 70’)

Goliau: Nolan 36’, 88’, Brewster 45’

Cardiau Melyn: Thompson 9’, Brewster45’, Weeks 75’

.

Wrecsam

Tîm: Jalal (Dunn 46’), Riley, Tilt, Rutherford (Powell 19’), Rooney, White, Barry, R. Evans, J. Evans, McDonagh, Smith (Bencherif 89’)

Goliau: White 6’, Rooney 67’

Cerdyn Melyn: Rooney 87’

.

Torf: 2,066