Bob Bradley
Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley yn awyddus i brynu chwaraewyr newydd yn gynnar ym mis Ionawr pan fydd y ffenest drosglwyddo yn ail-agor.

Fe fydd gan yr Elyrch bedair gêm yn ystod mis Ionawr, gan aros yn y tri safle isaf dros gyfnod y Nadolig ar ôl colli gemau oddi cartref yn West Brom a Middlesbrough yn ddiweddar.

Mae ganddyn nhw ddwy gêm hollbwysig dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gyda West Ham yn dod i Abertawe ar Ddydd San Steffan, a Bournemouth yn wrthwynebwyr Nos Galan.

Dydy Bob Bradley ddim wedi dweud pwy yw’r chwaraewyr sydd ar ei restr siopa hyd yn hyn, ond fe ddywedodd brynhawn ddoe fod perchnogion Americanaidd y clwb, Jason Levien a Steve Kaplan yn barod i roi arian iddo gryfhau’r tîm.

Dywedodd Bob Bradley: “Yn sicr, os yw chwaraewr ar gael ac ry’n ni’n argyhoeddedig y bydd e’n ein gwneud ni’n well, yna swydd y rheolwr yw argyhoeddi fod angen gwario arian.”

Mae’r perchnogion eisoes wedi cael eu beirniadu am fethu â sicrhau bod Joe Allen yn dychwelyd i Stadiwm Liberty, ond mae Bob Bradley yn hyderus y gall y clwb ddenu chwaraewyr o safon er gwaetha’u sefyllfa bresennol yn y gynghrair.

“Do’n i ddim yma pan oedd y sefyllfa yna gyda Joe Allen, ond mater yw hi o benderfynu a yw gwerth chwaraewr yr hyn ry’n ni’n credu yw e.

“Dydy’r penderfyniadau yna ddim yn hawdd. Ond mae’r trafodaethau wedi bod yn bositif. Mae Jason a Steve yn deall y cyfrifoldeb sydd ganddyn nhw.

“Gawn ni weld beth ddaw.”

Blaenoriaethau

Y prif flaenoriaeth fydd prynu amddiffynnwr canol wrth i’r amddiffynwyr cymharol ddi-brofiad, Alfie Mawson a Mike van der Hoorn ei chael hi’n anodd llenwi esgidiau’r cyn-gapten Ashley Williams.

Ond yn ôl Bob Bradley, mae e hefyd yn awyddus i brynu chwaraewr canol cae ymosodol a blaenwr wrth i’r Elyrch barhau i’w chael hi’n anodd sgorio digon o goliau i ennill gemau.

Ymhlith y blaenwyr, aeth Andre Ayew i West Ham ddechrau’r tymor, gyda Bafetimbi Gomis yn dychwelyd ar fenthyg i Ffrainc.

Daeth Fernando Llorente a Borja Baston yn eu lle. Dim ond yn ddiweddar y mae Fernando Llorente wedi dechrau tanio o flaen y gôl, tra bod Borja Baston yn parhau i frwydro am ei le yn y tîm ar ôl costio £15 miliwn dros yr haf, sy’n record i’r clwb.

Ymhlith yr enwau sydd wedi cael eu crybwyll fel chwaraewyr posib i’w prynu mae cyn-chwaraewr canol cae yr Elyrch, Tom Carroll o Spurs.

Ond mae Bob Bradley yn awyddus i gryfhau’r tîm “o’r cefn i’r blaen”.

Dywedodd yr Americanwr: “Ie, hoffen ni wneud y cyfan yn gynnar os yw hynny’n bosibl.

“O ystyried lle’r y’n ni ar ôl 17 gêm, mae’n rhaid i ni fanteisio ar y 21 gêm sy’n weddill.

“Dy’ch chi ddim eisiau eistedd nôl a gwylio gêm ar ôl gêm yn mynd heibio. Fel arall, byddwch chi’n gweld, yn lle 21 gêm i wyrdroi pethau, fod gyda chi 14 neu 15 o gemau.”