Bob Bradley
Ar Ddiwrnod Diolchgarwch, mae rheolwr Americanaidd tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi galw ar y chwaraewyr a’r cefnogwyr i ddangos ysbryd o undod wrth i’r clwb frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Mae’r Elyrch bellach ar waelod y tabl ar ôl ennill un gêm yn unig y tymor hwn, ac maen nhw’n croesawu Crystal Palace i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn ar gyfer gêm a allai fod yn dyngedfennol, nid yn unig i ddyfodol y tîm ond Bradley ei hun.

Yn ôl Bradley, rhaid i’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr anwybyddu’r ffrae sy’n corddi rhwng cyfarwyddwyr Americanaidd y clwb ac Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr.

Ffrae rhwng y clwb a’r cefnogwyr

Mae’r Ymddiriedolaeth yn anhapus ar ôl i Bradley gael ei benodi’n rheolwr yn lle Francesco Guidolin fis diwethaf, a hynny heb yn wybod iddyn nhw.

Gan fod yr Ymddiriedolaeth yn rhanddeiliaid sylweddol yn y clwb, mae disgwyl i’r perchnogion gyfathrebu â nhw cyn gwneud penderfyniadau tyngedfennol.

Ac roedd dryswch pellach yr wythnos hon ynghylch dyfodol un o’r cyfarwyddwyr, Leigh Dineen.

Ymddiswyddodd Dineen o’r bwrdd cyfarwyddwyr ddechrau’r tymor ar ôl i Steve Kaplan a Jason Levien brynu’r clwb.

Ond roedd hi’n ymddangos – am gyfnod byr o leiaf – fod Dineen yn ail-ymuno â’r bwrdd yr wythnos hon tan bod yr Ymddiriedolaeth yn ei atal. Ond mae’r clwb yn dweud mai camgymeriad gweinyddol oedd i gyfri am gynnwys enw Dineen mewn dogfennau.

‘Pawb gyda’i gilydd’

Mae’r sefyllfa oddi ar y cae wedi treiddio i’r stadiwm yn ddiweddar, gyda’r cefnogwyr yn lleisio’u barn yn ystod gemau.

Ond dydy hynny “ddim wedi cael unrhyw effaith” ar Bradley na’r chwaraewyr, meddai’r rheolwr.

“Dw i’n dweud drosodd a throsodd, dw i wedi mwynhau bod yn rhan o’r clwb, dw i wrth fy modd gyda’r chwaraewyr hyn a chymaint maen nhw’n caru’r clwb ac ry’n ni’n canolbwyntio ar sicrhau ein bod ni’n rhoi’r cyfnod gwael y tu ôl i ni ac mae hynny’n mynd i ddigwydd yr wythnos hon.”

Mae amseru’r datganiad – ar bapur o leiaf – yn ddelfrydol i’r Elyrch wrth iddyn nhw wynebu tîm y mae eu rheolwr nhw, Alan Pardew, hefyd o dan bwysau.

Ond dydy sefyllfa’r Llundeinwyr – sy’n unfed ar bymtheg yn y tabl – ddim yn agos at fod mor ddifrifol â sefyllfa’r Elyrch.

Yn holl hanes yr Uwch Gynghrair, dim ond pedwar tîm allan o’r 12 sydd wedi ennill chwe phwynt yn eu 12 gêm gyntaf sydd wedi llwyddo i aros yn yr Uwch Gynghrair – Sunderland, Derby, Everton a Wigan.

Mae rhai eisoes wedi dechrau cwestiynu a all Abertawe ymuno â’r rhestr fer honno.

Herio’r cefnogwyr

Yn ôl Bradley, mae angen i bawb – y chwaraewyr a’r cefnogwyr – “sefyll gyda’n gilydd” i ddod drwy’r cyfnod anodd hwn.

“Fy neges i’r cefnogwyr yw fod y pethau hyn allan o’u rheolaeth nhw a’n rheolaeth ni ond rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n sefyll gyda’n gilydd, mae eu hangen nhw arnon ni yn y Liberty.

“Mae amser gyda ni i ddatrys pethau eraill, ond rhaid i bwysigrwydd y berthynas rhwng y cefnogwyr a’r tîm ein cario ni drwy’r cyfnod yma. Dw i am i’r chwaraewyr gael y gefnogaeth honno a’r cefnogwyr i weld ein bod ni’n ymroi’n llwyr.

“Byddai’n well gen i tasai pawb ar yr un dudalen ond o fewn tîm, allwch chi ddim gadael i bethau dynnu eich sylw oddi ar y cyfrifoldeb sydd gyda ni wrth wisgo’r lliwiau hyn.

“Bydd cefnogwyr yn lleisio’u barn ar wahanol adegau. Mae hynny’n deg, nhw yw calon y clwb, ond maen nhw’n gwybod am y 95 munud maen nhw ar y cae, mai’r unig beth sy’n cyfri yw’r canlyniad a sut ry’n ni’n chwarae.

“Dwi’n herio’r chwaraewyr, ond dw i’n herio’r cefnogwyr hefyd. Gadewch i ni sicrhau fod safon uchel o gefnogaeth i ni, gadewch i ni wneud popeth yn anodd i Crystal Palace, a gadewch i ni sefyll gyda’n gilydd fel bod hyn i gyd yn llwyddo.”