Ashley Williams (llun: CBDC)
Ar amddiffynwyr canol y ddau dîm y bydd y sylw y prynhawn yma wrth i Abertawe deithio i Barc Goodison i herio Everton yn yr Uwch Gynghrair (3 o’r gloch).

Pan adawodd Ashley Williams, capten Abertawe, am Everton ar ddechrau’r tymor hwn, fe ddaeth yr amddiffynnwr ifanc Alfie Mawson o Barnsley yn un o ddau amddiffynnwr canol yn ei le.

Ieuenctid, ac nid profiad, biau hi bellach yng nghalon yr amddiffyn, ond mae Mawson wedi ennill cryn ganmoliaeth wrth iddo geisio camu i esgidiau mwya’r Elyrch.

Wythnosau’n unig ar ôl ymddangos yng nghrys Abertawe am y tro cyntaf fis diwethaf, cafodd Mawson ei alw i garfan dan 21 Lloegr yr wythnos hon, gan ennill clod unwaith eto er iddo gael ei ffrwyno gan ymosodwr Ffrainc, Moussa Dembele.

Yn ôl rheolwr Abertawe, Bob Bradley, mae tebygrwydd rhwng Mawson a Williams, ond mae angen sicrhau nad oes gormod o bwysau ar y chwaraewr ifanc mor gynnar yn ei yrfa.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n mynd ar y cyflymdra cywir gydag Alfie gan ei fod e’n chwaraewr ifanc o hyd, gyda thair gêm yn yr Uwch Gynghrair y tu ôl iddo fe.

“Oes ganddo fe’r un math o bresenoldeb [ag Ashley Williams]? Oes. Ond mae elfennau eraill i gêm Alfie sy’n gofyn am brofiad.

“Mae rhai gemau’n fwy addas ar ei gyfer e na’i gilydd, fel y gêm yn erbyn Watford – gêm fwy uniongyrchol, lle mae hi ychydig yn fwy amlwg beth sy’n dod atoch chi.

“Dw i’n credu ei fod e’n foi sy’n hyderus yn ei allu ei hun, does dim amheuaeth am hynny. Mae’n rhaid i’r hyfforddwyr ddod o hyd i’r ffordd orau o’i symud e ymlaen.”

‘Camu i fyny’ ar ôl Ashley Williams

Y cwestiwn mawr ar wefusau cefnogwyr Abertawe y tymor hwn yw a all Abertawe ymdopi heb eu capten a’u hamddiffynnwr dylanwadol, Ashley Williams.

Ac fe fydd ganddyn nhw gyfle’r prynhawn yma i gymharu Williams a Mawson wrth iddyn nhw fynd ben-ben am y tro cyntaf.

Fe fydd gan Mawson yntau gyfle i brofi ei werth yn erbyn ei ragflaenydd.

Ychwanegodd Bob Bradley: “Licio neu beidio, mae yna adegau pan fo chwaraewyr yn gadael clybiau am wahanol resymau. Ond mae’n gyfle i rai o’r bois gael mynd ar y cae heb eu bod nhw wedi chwarae llawer cyn hynny.

“Mae’n gorfodi pawb i gamu i fyny, a pheidio meddwl am eu perfformiadau eu hunain yn unig, ond yn hytrach perfformiad y chwaraewr nesaf ato fe.”

…Ond camu i esgidiau Ashley Williams?

Wrth gymharu Williams a Mawson, bydd hi’n naturiol i’r cefnogwyr a’r gwybodusion ofyn a all Mawson, yn y pen draw, gael ei ystyried yn olynydd naturiol i Williams.

‘Gall’ yw’r ateb, yn ôl yr Americanwr Bob Bradley.

“Os oedd e [Ashley Williams] yn arweinydd da iawn, fel mae pawb yn ei ddweud, yna rhaid i chi gredu bod rhywfaint o hynny’n dylanwadu ar y bois eraill.

“Wrth iddo fe adael yr ystafell, roedd y bois eraill yn deall fod mwy [o gyfrifoldeb] ar eu hysgwyddau nhw a bod rhaid iddyn nhw gamu i fyny. Dyna lle’r y’n ni arni ar hyn o bryd.

“Rhaid i ni ddefnyddio hynny yn y ffordd gywir i gael pawb i symud yn yr un cyfeiriad.”

Buddugoliaeth?

Mae’r Elyrch heb fuddugoliaeth yn yr Uwch Gynghrair ers diwrnod cynta’r tymor hwn, ac maen nhw’n bedwerydd ar bymtheg yn y tabl, lle maen nhw’n gyfartal ar bwyntiau â Sunderland (pump yr un), ond uwch eu pennau o ganlyniad i wahaniaeth goliau.

Fe allai buddugoliaeth ym Mharc Goodison ddechrau’r adfywiad sydd ei angen ar yr Elyrch i osgoi cwympo o’r Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Dywedodd Bradley: “Byddai’n dod ar adeg dda, yn erbyn tîm da ar gae lle nad yw’n hawdd ennill. Mae’n her fawr ond yn gyfle.

“Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni frwydro’n galed i newid cyfeiriad a chwrs y tymor. Allwch chi ddim mynd yn rhwystredig ac yn ddigalon.

“Mewn bywyd, pan ydych chi’n mynd trwy gyfnod anodd, rhaid i chi frwydro a dangos beth allwch chi ei wneud.

“Does dim amheuaeth, buddugoliaeth sydd ei hangen arnon ni. Mi allai ddod o gôl wych, arbediad gwych neu ran o’r gêm nad oes unrhyw un yn ei weld. Gall y pehau nad oes modd eu gweld wneud gwahaniaeth.

“Mae’n hawdd anghofio’r pethau bychain ond gallan nhw wneud gwahaniaeth mawr oherwydd mai dyna’r pethau mae rhai timau’n gwneud yn well na’i gilydd.”

Ond mae Bradley yn cyfaddef fod rhaid i’r Elyrch godi eu safon os ydyn nhw am godi eu hunain o sefyllfa y mae’r chwaraewr canol cae Ki Sung-yueng wedi’i galw’n “argyfwng”.

“Nid un peth penodol [sydd o’i le], does dim un ateb yn unig, rhaid i ni fwrw ati, herio’n hunain a darganfod y criw gorau [o chwaraewyr]. Rhaid i’r criw cyfan ateb yr her.”