Casnewydd 4–1 Alfreton (wedi amser ychwanegol)
Bydd Casnewydd yn wynebu Plymouth yn ail rownd y Cwpan FA ar ôl trechu Alfreton yn y rownd gyntaf ar yr ail gynnig ar Rodney Parade nos Fawrth.
Wedi gêm gyfartal oddi cartref ychydig dros wythnos yn ôl, roedd angen amser ychwanegol ar y Cymry i drechu’r tîm sydd yn chwarae ddwy gynghrair yn is wrth iddynt gyfarfod eto yn ne ddwyrain Cymru.
Bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r ail hanner am gôl gyntaf y gêm wrth i Rhys Healey roi’r tîm cartref ar y blaen.
Roedd Alfreton yn gyfartal ychydig dros bum munud yn ddiweddarach diolch i beniad Adam Priestley o groesiad Adam Smith ac roedd angen amser ychwanegol i wahanu’r ddau dîm.
Profodd Casnewydd yn rhy gryf i’r ymwelwyr yn yr hanner awr ychwanegol. Adferodd Jordan Green fantais y tîm cartref cyn i goliau hwyr Josh Sheehan a Jazzi Barnum-Bobb roi awyr iach rhwng y ddau dîm.
Bydd yr Alltudion yn teithio i Plymouth ar gyfer yr ail rownd ar y trydydd o Ragfyr.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Barnum-Bobb, Jones, Bennett, Butler, Myrie-Williams (Green 78’), Tozer, Sheehan, Compton (Wood 36’ (Cameron 109’)), Rigg, Healey
Goliau: Healey 68’, Green 97’, Sheehan 110’, Barnum-Bobb 117’
Cerdyn Melyn: Sheehan 70’
.
Alfreton
Tîm: Spiess, Mantack, McGowan, Kennedy (Allan 99’), Heaton, Smith, Wilson, Nyoni, Monkhouse, Priestley (Smith 89’), Clayton (Hearn 89’)
Gôl: Priestley 74’
Cardiau Melyn: Smith 13’ Mantack 63’
.
Torf: 1,189