Mae ymosodwr Cymru, Sam Vokes yn mynnu nad yw ymgyrch y tîm pêl-droed cenedlaethol i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia ymhen dwy flynedd ar ben.

Daeth eu gêm yn erbyn Serbia yng Nghaerdydd neithiwr i ben yn gyfartal 1-1, ac mae’r canlyniad yn eu gadael yn y trydydd safle yn y tabl.

Sgoriodd Gareth Bale yn yr hanner cyntaf i roi Cymru ar y blaen, ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl drwy Aleksandar Mitrovic bum munud cyn diwedd y gêm.

Mae Cymru bedwar pwynt y tu ôl i Weriniaeth Iwerddon, sydd ar frig Grŵp D, a’r ddwy wlad yn cyfarfod â’i gilydd yn Nulyn ym mis Mawrth.

Mae Cymru bellach wedi cael tair gêm gyfartal yn olynol.

Dywedodd Sam Vokes: “Mae’n ddyddiau cynnar ac ry’n ni’n dal ynddi yn y grŵp.

“Dim ond pedwar gêm sydd wedi bod, felly mae tipyn i gystadlu amdano o hyd.

“Ond mae’r canlyniad hwn yn gwneud y gêm yn erbyn Iwerddon yn bwysicach. Fyddwn i ddim yn dweud bod rhaid ei hennill hi, ond mae’n gêm anferth. Os ydyn ni’n ennill bydd hi’n agor y grŵp i fyny’n llwyr.”