Fe fydd Wrecsam yn gobeithio y gall eu rhediad di-guro o dair gêm yn y Gynghrair Genedlaethol barhau wrth iddyn nhw deithio i North Ferriby United brynhawn dydd Sadwrn (3 o’r gloch).

Y Cymry, sy’n bedwerydd ar ddeg yn y gynghrair, yw’r ffefrynnau i ennill y gêm yn erbyn tîm sydd wedi colli eu wyth gêm ddiwethaf yn y gynghrair ac sydd ar waelod y tabl.

Bydd y Saeson heb eu hymosodwr Curtis Bateson oherwydd anaf i’r torllengig, tra bydd y Cymry heb Paul Rutherford sydd wedi anafu llinyn y gâr.

Rheolwr Wrecsam, Dean Keates oedd y capten pan gafodd ei dîm eu trechu o’r smotyn gan North Ferriby Utd yn Wembley yn rownd derfynol Tlws yr FA y tymor diwethaf.

Ond mae’n mynnu nad talu’r pwyth yn ôl am y gêm honno fydd eu blaenoriaeth y prynhawn yma.