Mae tîm pêl-droed Y Seintiau Newydd wedi creu hanes gyda buddugoliaeth o 3-1 dros Forfar Athletic y prynhawn yma.

Y tîm o Gymru yw’r cyntaf erioed o’r tu allan i’r Alban i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Her yr Alban.

Eleni am y tro cyntaf erioed, cafodd timau o Gymru a Gogledd Iwerddon wahoddiad i ymuno â’r gystadleuaeth gyda sêl bendith UEFA.

Mae’r gystadleuaeth hefyd yn cynnwys tîm dan 20 bob un o glybiau Uwch Gynghrair yr Alban.

Rangers oedd y pencampwyr y tymor diwethaf.

Hat-tric

Sgoriodd Greg Draper hat-tric i sicrhau bod Forfar yn colli o 3-1 ar eu tomen eu hunain am yr ail waith yn olynol.

24 o funudau gymerodd hi i Draper sgorio’i gôl gyntaf, ac fe ychwanegodd ddwy arall yn yr ail hanner i selio’r fuddugoliaeth.

Dyma oedd deuddegfed buddugoliaeth Y Seintiau Newydd o’r bron.