Mae rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Bob Bradley eisiau gwneud mwy na dim ond aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Mae’r Elyrch yn ail ar bymtheg yn y tabl, un safle uwchben yn safleoedd disgyn, a bydd yr Americanwr yn cymryd yr awenau am y tro cyntaf pan fyddan nhw’n wynebu Arsenal oddi cartref ddydd Sadwrn nesaf.

Cafodd Bradley ei benodi ddydd Llun diwethaf ar ôl i’r Eidalwr Francesco Guidolin gael ei ddiswyddo.

Ar hyn o bryd, does gan Bradley ddim awydd newydd dull chwarae ei dîm.

“Mae’r math o bêl-droed sy’n cael ei chwarae yma wedi creu argraff arna i. Dw i ddim yn gwybod os galla i gofio’r drefn ond Roberto Martinez, Paulo Sousa, Brendan Rodgers, Michael Laudrup, Garry Monk – dw i’n gwybod y math o bêl-droed sydd wedi cael ei chwarae yma.

“Wnes i sôn am Barcelona. Dw i’n gwybod beth oedd y ‘Dream Team’. Dw i’n gwybod pa mor dda oedd Michael Laudrup. Roedd e mor dda fel ei fod e’n gallu dod yma a chynnal sesiynau ymarfer lle byddai e’n gallu chwarae gyda’r tîm a gwneud yn dda.”

Ond yn ôl Bradley, mae’n rhaid i’r tîm ddechrau troi meddiant yn gyfleoedd, a chyfleoedd yn goliau.

“I fi, y nod yw bod yn dîm da, chwarae pêl-droed yn well, ennill cynifer o bwyntiau â phosib.

“Yn y broses, dw i’n deall hanes yr Uwch Gynghrair, felly mae [aros ynddi] yn nod. Ond a fydden ni’n hapus i ddweud mai dyna’r cyfan ry’n ni am ei wneud? Gobeithio ddim.

“Ond does gyda fid dim targedau penodol. Fy syniad yw dod i nabod y bois, sefydlu’r sesiynau ymarfer, sefydlu fy nisgwyliadau.

“Wythnos nesaf wedyn, y pwyslais fydd beth fydd yn ei gymryd i gael gêm dda yn erbyn Arsenal.”

Neil Taylor

Un sy’n gobeithio ennill ei le yn y tîm unwaith eto yw’r cefnwr chwith, Neil Taylor.

Chafodd amddiffynnwr Cymru fawr o gyfle i chwarae o dan Francesco Guidolin ddechrau’r tymor, ac fe arweiniodd penderfyniad i’w eilyddio yn y gêm yn erbyn Chelsea at ffrae ar ymyl y cae.

Roedd Guidolin hefyd yn ffafrio Stephen Kingsley yn lle Taylor, oedd ar goll o’r garfan ar ddechrau’r tymor gan ei fod yn gorffwys ar ôl ymgyrch Cymru yn Ewro 2016.

Ond mae Taylor yn ffyddiog y gall e greu argraff ar y rheolwr newydd.

“Roedd hi ychydig yn anodd dod nôl o’r Ewros a gorfod ymdopi â hynny [colli ei le]. Ond pennod arall oedd honno.

“Pan af fi yn ôl, mae’n mynd i fod yn gyffrous, dw i’n meddwl.

“Dw i wedi clywed pethau da iawn am y rheolwr newydd. Dw i ddim wedi siarad â fe eto ond unwaith fydda i’n ôl ddydd Mawrth, bydda i’n amlwg yn canolbwyntio ar Abertawe.”