Bob Bradley yn annerch y wasg yn Abertawe
Mae rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi awgrymu y bydd Leon Britton yn parhau’n gapten o dan ei arweiniad.

Cafodd yr Americanwr ei ddatgelu’n ffurfiol yn y ddinas brynhawn dydd Gwener, wrth iddo gyrraedd de Cymru’n olynydd i’r Eidalwr Francesco Guidolin, a gafodd ei ddiswyddo ddydd Llun.

Cafodd Britton ei benodi’n gapten y clwb ar ôl i amddiffynnwr a chapten Cymru, Ashley Williams symud i Everton.

Athroniaeth ei ragflaenydd Guidolin oedd penodi’r chwaraewr mwyaf profiadol ar y cae ar unrhyw adeg yn gapten.

Ond fe ddywedodd Bradley wrth Golwg360 ei fod yn ffafrio penodi un capten yn benodol, a bod y chwaraewyr mwyaf profiadol o’i gwmpas yn cynnig cefnogaeth iddo.

Dywedodd Bradley: “Dw i’n credu bod rhaid i chi gael grŵp o arweinwyr, yna rydych chi’n penderfynu beth sy’n gwneud synnwyr o ran y capten.

“Mae’n wahanol i wahanol dimau, mae’n dibynnu.”

“Clyfar”

Dywedodd nad oedd y gapteniaeth wedi cael ei hystyried eto, ond fe ddywedodd y gallai Britton barhau yn ei rôl.

Ychwanegodd fod Leon Britton wedi creu argraff arno yn ystod ei sesiwn ymarfer gyntaf yn Fairwood ar gyrion y ddinas.

“Dw i’n ymwybodol o’r rôl mae Leon wedi’i chwarae yn y tîm hwn. Nawr dw i’n cael ei weld e’n ymarfer. Mae e’n gweithio’n galed, mae e’n glyfar ac mae e’n gwneud lot o bethau da.

“Dydyn ni ddim wedi trafod y capten. Dw i ddim yn barod am hynny gyda phopeth sy’n digwydd.

“Mae’n rhywbeth sydd ar fy rhestr i. Dw i ddim wedi meddwl eto, a bod yn onest.

“Dw i’n credu o hyd fod angen criw o fois sy’n gosod eu stamp.”