Wrecsam 1–2 Lincoln               
                                                         

Colli fu hanes Wrecsam wrth i Lincoln ymweld â’r Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth.

Sgoriodd yr ymwelwyr ddwy waith cyn yr egwyl ac er i’r Dreigiau dynnu un gôl hwyr yn ôl mae’r pwysau’n cynyddu ar Gary Mills wedi i’w dîm golli eto.

Peniodd Luke Waterfall Lincoln ar y blaen wedi hanner awr o chwarae cyn i Harry Anderson ddyblu’r fantais funud cyn yr egwyl.

Rhoddodd Hamza Bencherif lygedyn o obaith i’r Cymry ddeg munud o’r diwedd ond daliodd Lincoln eu gafael ar y tri phwynt gan ddanfon Wrecsam i lawr i’r pymthegfed safle yn y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Carrington, Edwards, Bencherif, Newton, Tilt, Rooney (Powell 54’), Evans (Harrad 54’), Evans, Harvey, Rutherford

Gôl: Bencherif 81’

Cardiau Melyn: Newton 22’, Harvey 55’, Harrad 59’, Tilt 90’

.

Lincoln

Tîm: Farman, Wood (Power 79’), Waterfall, Arnold, Beevers, Raggett, Habergham, Anderson, Woodyard, Rhead (Chapman 84’), Bonne (Muldoon 20’)

Goliau: Waterfall 30’, Anderson 44’

Cerdyn Melyn: Power 87’

.

Torf: 3,847