Abertawe 1–2 Lerpwl                      
                                                 

Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt groesawu Lerpwl i’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn, er i’r Elyrch fod gôl i ddim ar y blaen ar hanner amser.

Rhoddodd Leroy Fer fantais gynnar i’r Elyrch ond unionodd Roberto Firmino i’r ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner cyn i gic o’r smotyn hwyr James Milner ei hennill hi i’r Cochion.

Roedd Borja Baston eisoes wedi penio un cyfle euraidd dros y trawst i’r Elyrch cyn i Fer agor y sgorio wedi wyth munud, gyda Borja yn gwneud yn iawn am ei fethiant cynharach trwy benio’r bêl i lwybr y gŵr o’r Ieldiroedd yn y cwrt chwech i roi’r gôl ar blât.

Abertawe a gafodd y gorau o weddill yr hanner cyntaf hefyd er mai gêm ddigon gwael oedd hi mewn gwirionedd.

Dechreuodd Lerpwl yr ail hanner fymryn yn well ac roeddynt yn gyfartal o fewn deg munud diolch i beniad Firminio o groesiad Jordan Henderson.

Prin oedd cyfleoedd clir yn yn ddau ben wedi hynny ac roedd hi’n ymddangos fod y ddau dîm yn mynd i orfod bodloni ar bwynt yr un.

Newidiodd hynny chwe munud o ddiwedd y naw deg pan ildiodd Angel Rangel gic o’r smotyn ddiangen gyda throsedd ar Firminio. Milner a gymerodd y gic gan yrru Lukasz Fabianski y ffordd anghywir cyn anelu’r bêl i lawr y canol.

Doedd y naill dîm na’r llall yn haeddu ennill y gêm a dylai Mike van der Horn fod wedi sicrhau gêm gyfartal yn yr eiliadau olaf ond anelodd amddiffynnwr canol Abertawe ei ergyd heibio’r postyn o chwe llath.

Mae’r canlyniad yn codi Lerpwl i’r ail safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair ond mae Abertawe yn aros yn yr ail safle ar bymtheg wrth i’r pwysau gynyddu ar y rheolwr, Francesco Guidolin.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, van der Hoorn, Amat, Naughton, Fer (Fulton 72’), Britton (Ki Sung-yueng 63’), Cork, Routledge (Barrow 62’), Borja Baston, Sigurdsson

Gôl: Fer 8’

Cardiau Melyn: Cork 38’, Britton 53’

.

Lerpwl

Tîm: Karius, Clyne, Matip, Lovren, Milner, Lallana (Sturridge 23’), Henderson, Wijnaldum (Can 85’), Mane, Firmino (Origi 85’), Coutinho

Goliau: Firmino 54’, Milner [c.o.s.] 84’

Cardiau Melyn: Henderson 25’, Sturridge 39’

.

Torf: 20,862