Met Caerdydd 1–0 Aberystwyth
Roedd gôl wych Chris Baker yn ddigon wrth i Met Caerdydd drechu Aberystwyth ar Gampws Cyncoed yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.
Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe sgoriodd yr eilydd gôl a fyddai’n haeddu ennill unrhyw gêm.
Hanner Cyntaf
Rhoddwyd ergyd gynnar i obeithion Aberystwyth wrth i Geoff Kellaway adael y cae gydag anaf wedi dim ond saith munud.
Yr ymwelwyr, serch hynny, a gafodd y gorau o hanner cyntaf digon diflas gyda Luke Sherbon yn dod agosaf at sgorio. Tarodd y trawst gyda foli ddeheuig o du allan i’r cwrt cosbi cyn i gynnig arall gael ei glirio oddi ar y llinell gan Joel Letori.
Bu rhaid aros tan bum munud cyn yr egwyl am gyfle cyntaf Met pan chwipiodd Adam Roscrow ei ergyd heibio’r postyn.
Ail Hanner
Roedd hi’n gêm wahanol yn yr ail hanner, gyda’r myfyrwyr yn ymddangos yn fwy ffit na Aber wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.
Gorfododd Roscrow arbediad da gan Chris Mullock toc cyn yr awr cyn i’r tîm cartref agor y sgorio mewn steil ychydig funudau’n ddiweddarach. Cwta ddeg munud yr oedd Baker wedi bod ar y cae pan gododd y bêl dros Mullock gyda hanner foli grefftus o ochr chwith y cwrt cosbi, tipyn o gôl.
Chris Jones a gafodd gyfle gorau Aber yn y pen arall wedi hynny ond gwnaeth Will Fuller arbediad da. Cafodd Roscrow a Jon Littlemore gyfleoedd i ddyblu mantais Met hefyd ond cafodd y ddau eu hatal gan Mullock yn y gôl.
Ond roedd un gôl yn ddigon wrth i’r tîm o Gaerdydd ddal eu gafael ar y tri phywnt a chodi i hanner uchaf yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf y tymor hwn.
.
Met Caerdydd
Tîm: Fuller, Letori, McCarthy, Woolridge, Lewis, Bowler (Baker 52’), Spencer (E. Evans 55’), W. Evans, Roscrow (Littlrmore 70’), Crosby, Lam
Gôl: Baker 62’
Cerdyn Melyn: Woolridge 49’
.
Aberystwyth
Tîm: Mullock, Watts, Bell, Clarke, Kellaway (Blake 7’), Sherbon (Rodon 85’), Walters, Wollacott, Evans, March (Gorgievsky 79’), Jones
.
Torf: 412