Abertawe 1–2 Man City         
                                                          

Daeth ymgyrch Abertawe yng Nghwpan y Gynghrair i ben wrth i’r deiliaid, Man City, ymweld â’r Liberty yn y drydedd rownd nos Fercher.

Roedd goliau Gael Clichy ac Alexis García yn ddigon i’r ymwelwyr o Fanceinion er gwaethaf gôl hwyr Gylfi Sigurdsson i’r Elyrch.

Gwaneth y ddau dîm sawl newid i’r un ar ddeg a ddechreuodd yn y gynghrair dros y penwythnos, ond wynebau anghyfarwydd Man City a gafodd y dechrau gorau wrth iddynt lwyr reoli’r meddiant mewn hanner cyntaf di sgôr.

Wnaeth hi ddim aros yn gyfartal yn hir wedi troi cyn i Clichy gwblhau symudiad tîm gwych i agor y sgorio.

Dyblwyd y fantais hanner ffordd trwy’r ail hanner pan rwydodd y Sbaenwr ifanc yng nghanol cae, Alexis García, yn dilyn croesiad cywir ei gydwladwr, Jesús Navas.

Roedd yr ymwelwyr yn gymharol gyfforddus wedi hynny, a gôl gysur yn unig a oedd ymdrech Sigurdsson yn hwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad hwn ynghyd â thrafferthion Abertawe yn y gynghrair yn golygu fod Francesco Guidolin a’i dîm yn cael dechrau anodd iawn i’r tymor.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Rangel, van der Hoorn, Amat, Taylor, Cork (Fer 55’), Britton, Naughton (Sigurdsson 61’), Routledge, Borja (Barrow 75’)

Gôl: Sigurdsson 90+3’

Cerdyn Melyn: Naughton 55’

.

Man City

Tîm: Caballero, Zabaleta, Kompany, Stones, Clichy, Esmoris Tasende (De Bruyne 58’), Fernando, García Serrano (Adarabioyo 90’), Jesús Navas, Sané, Iheanacho (Diaz 80’)

Goliau: Clichy 49’, García Serrano 67’

Cerdyn Melyn: Fernando 87’

.

Torf: 18,237