Mae Gareth Bale yn holliach i wynebu Villareal yn La Liga heno ar ôl gwella o anaf i’w glun.

Cafodd seren Real Madrid a Chymru ei anafu yn ystod gêm yn La Liga yn erbyn Espanyol, ac fe fu’n rhaid iddo adael y cae ar ôl 70 munud.

Roedd pryderon am ei ffitrwydd bythefnos yn unig cyn i Gymru herio Awstria a Georgia mewn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae Real Madrid yn anelu am ail fuddugoliaeth ar bymtheg o’r bron, a fyddai’n record ym mhrif gynghrair Sbaen.

Bydd y gêm yn fyw ar Sky Sports 2 am 7yh.