Y Seintiau Newydd 5–1 Y Bala
Sgoriodd y Seintiau Newydd bum gôl wrth roi cweir iawn i’r Bala ar Neuadd y Parc yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.
Mae’r pencampwyr bellach wedi ennill saith allan o saith ar ddechrau’r tymor ac yn glir ar frig y tabl.
Pedwar munud yn unig a oedd ar y cloc pan beniodd Steve Saunders y gôl agoriadol o gic gornel Chris Seargeant.
Dyblwyd y fantais ddeg munud yn ddiweddarach pan beniodd Greg Draper ail y Seintiau wedi croesiad taclus Alex Darlington.
Felly yr arhosodd pethau tan hanner amser ond gyda chwaraewr gorau’r Bala, Conall Murtagh, yn absennol, patrwm tebyg a oedd i’r ail hanner.
Cafodd Darlington gyfle gwych i ychwanegu’r drydedd ddau funud wedi’r ail ddechrau ond cafodd ei atal gan Alex Lynch.
Fu dim rhaid i’r Seintiau aros yn hir serch hynny cyn i Seargant rwydo o’r smotyn yn dilyn trosedd Stuart Jones ar Draper yn y cwrt cosbi.
Ymatebodd y Bala yn syth gyda gôl gan Ryan Wade ond adferodd Robbie Parry dair gôl o fantais y tîm cartref gyda pheniad o gic gornel arall gan Seargeant.
Wedi sgorio un a chreu dwy, fe sgoriodd Seargant eto hanner ffordd trwy’r hanner yn dilyn trosedd Anthony Stephens ar Draper, trosedd a arweiniodd at gerdyn coch i amddiffynnwr y Bala.
Tynnodd y Seintiau y droed oddi ar y sbardun wedi hynny ond roedd digon o amser ar ôl i Darlington fethu trydedd cic o’r smotyn y tîm cartref. Dim mwy o goliau felly ond buddugoliaeth hynod gyfforddus unwaith eto i’r tîm ar y brig.
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Routledge, Seargeant (Mullan 74’), Brobbel, Draper (Fletcher 74’), Parry (Farleigh 80’), Saunders, Rawlinon, Darlington
Goliau: Saunders 4’, Drapper 14’, Seargeant [c.o.s.] 50’, [c.o.s.] 67’, Parry 54’
.
Y Bala
Tîm: Lynch, Valentine (M. Jones 51’), Stephens, S. Jones, Wade, Edwards, Burke, Venables, Sheridan, Smith, Hayes (Connolly 71’)
Gôl: Wade 51’
Cardiau Melyn: Burke 69’, Venables 76’
Cerdyn Coch: Stephens 67’
.
Torf: 203