Mae talcen caled yn wynebu Abertawe ddydd Sul wrth iddyn nhw groesawu Chelsea i Stadiwm Liberty yn y gobaith o ddod â dechrau di-guro eu gwrthwynebwyr yn yr Uwch Gynghrair i ben.
Dim ond un gêm allan o dair mae’r Elyrch wedi’i hennill mor belled – a honno oddi cartref yn Burnley ar ddiwrnod cynta’r tymor.
Ond maen nhw wedi colli yn erbyn Hull a Chaerlŷr ers hynny.
Bydd cryn dipyn o sylw’n cael ei roi i’r rheolwr y prynhawn ma, wrth i Francesco Guidolin fynd ben-ben â’i gyd-Eidalwr Antonio Conte.
Dim ond unwaith erioed y mae Guidolin wedi llwyddo i guro un o dimau Conte, a hynny yn yr Eidal.
Y tro diwethaf i Abertawe groesawu Chelsea i Stadiwm Liberty, y Cymry oedd yn fuddugol o 1-0, ond roedd hynny yn absenoldeb nifer fawr o sêr y tîm o Lundain.
Gylfi Sigurdsson sgoriodd y gôl fuddugol bryd hynny.
Mae Abertawe’n dal heb eu hymosodwr newydd, Borja Baston, cyn-ymosodwr Atletico Madrid a gostiodd £15.5 miliwn yn ystod y ffenest drosglwyddo – sy’n record i’r clwb.
Yn y cefn, mae Alfie Mawson yn gobeithio chwarae am y tro cyntaf ers ei drosglwyddiad o Barnsley i lenwi’r bwlch a gafodd ei adael gan Ashley Williams wrth iddo yntau fynd i Everton.
Mae’n bosib y bydd David Luiz, sydd wedi dychwelyd i Chelsea, a Marcos Alonso yn dechrau i’r ymwelwyr.
Dywedodd Francesco Guidolin: “Yn ystod y bythefnos ddiwethaf, ry’n ni wedi gweithio’n galed iawn i baratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Chelsea. Dy’n ni ddim wedi cael llawer o chwaraewyr, ond ry’n ni wedi gweithio’n dda dw i’n meddwl.”
Yn eu pum gêm diwethaf yn erbyn ei gilydd, mae Abertawe wedi ennill unwaith a Chelsea dair gwaith, tra bod y llall wedi gorffen yn gyfartal.
Mae’r gic gyntaf am 4 o’r gloch.