Y Rhyl 3–1 Airbus
Serennodd y Joneses ar y Belle Vue nos Sadwrn wrth i’r Rhyl drechu Airbus yn Uwch Gynghrair Cymru.
Agorodd Toby Jones y sgorio cyn i Alex Jones ychwanegu dwy arall wrth i’r tîm cartref ennill yn gyfforddus yn erbyn Airbus er gwaethaf gôl gysur hwyr iddynt hwythau.
Hanner Cyntaf
Airbus a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn yr hanner cyntaf ond y Rhyl a oedd yn bygwth fwyaf o flaen gôl.
Daeth cyfle cyntaf y tîm cartref i Alex Jones wedi dim ond dau funud ond anelodd yn syth at Ryan Neild yn y gôl. Bu bron i Carl Lamb benio’r Claerwynion ar y blaen wedi ugain munud hefyd ond cafodd ei gynnig ei glirio oddi ar y llinell gan Paul Connolly.
Daeth y gôl agoriadol i’r Rhyl wedi ychydig dros hanner awr o chwarae. Daeth un o’r chwaraewr gorau ar y cae, Rob Hughes, o hyd i Toby Jones yn y cwrt cosbi a llwyddodd yntau i gael y gorau o Matty McGinn cyn curo Neild ar ei bostyn agosaf.
Pedwar munud yn ddiweddarach roedd hi’n ddwy diolch i Jones arall. Alex a oedd y sgoriwr y tro hwn, yn rhyng-gipio pas lac Jonny Spittle yn ôl at ei gôl-geidwad i lithro’r bêl i’r gornel isaf.
Ail Hanner
Roedd y tri phwynt yn ddiogel i’r Rhyl yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i ail gôl Alex Jones a thrydedd gôl ei dîm. Llwyddodd Hughes i adennill y bêl oddi ar Spittle ar ochr y cwrt cosbi cyn ei bwydo i Lamb ar y dde, a rhoddodd yntau gôl syml ar blât i Jones.
Roedd y Rhyl yn gyfforddus wedi hynny, heb greu llawer o gyfleoedd am bedwaredd gôl. Wnaeth Airbus ddim bygwth llawer yn y pen arall chwaith, tan iddynt sgorio bedwar munud o ddiwedd y naw deg.
Tony Gray a oedd sgoriwr y gôl honno, yn manteisio ar gamgymeriad yng nghanol amddiffyn y Rhyl a rhy ychydig rhy hwyr oedd hi i’r ymwelwyr wrth i’r Claerwynion ddal eu gafael yn gyfforddus ar y tri phwynt sydd yn eu codi i’r trydydd safle yn y tabl.
.
Y Rhyl
Tîm: Evans, Miller (Simpson 46’), Hartley, Brewerton, Collins, Newton (Ahmadi 61’), Bell, Alex Jones, Toby Jones, Hughes (Pierce 70’), Lamb
Goliau: Toby Jones 32’, Alex Jones 36’, 52’
Cardiau Melyn: Newton 25’, Alex Jones 55’
.
Airbus
Tîm: Neild, Mathews, Connolly, McGinn (Jackson 75’), Ryan Edwards, Monteiro, Murphy, Fraughan (Zebb Edwards 60’), Menagh, Gray, Spittle (Hulley 57’)
Gôl: Gray 86’
Cerdyn Melyn: Matthews 29’
.
Torf: 212