Wrecsam 1–0 Sutton Utd
Sgoriodd Sean Newton unig gôl y gêm wrth i Wrecsam guro Sutton Utd yn y Gynghrair Genedlaethol ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Newton y tîm cartref ar y blaen toc wedi’r awr ac roedd y gôl honno’n ddigon i gipio’r tri phwynt.
Sutton a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ac roedd y Dreigiau braidd yn ffodus i fod yn gyfartal wrth droi. Bu rhaid i Shwan Jalal wneud arbediad da i atal Craig Eastmond a tharodd Chris Dickson y trawst.
Roedd Wrecsam fymryn yn well yn yr ail gyfnod ac roedd gôl Newton yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt a chodi ei dîm i’r hanner uchaf yn y tabl, maent yn yr unfed safle ar ddeg wedi naw gêm.
.
Wrecsam
Tîm: Jalal, Bencherif, Tilt, Rutherford, Newton, Rooney, Carrington, Evans, Powell (Harrad 44’), McDonagh (Edwards 76’), Nortey
Gôl: Newton 64’
Cerdyn Melyn: Harrad 73’
.
Sutton Utd
Tîm: Worner, Amankwaah, Beckwith, Bailey, Gomis (Fitchett 72’), Collins, Eastmond, Spence (Wishart 76’), Dickson, Burge, Biamou (Deacon 72’)
Cerdyn Melyn: Collins 90’
.
Torf: 3,890