Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman yn dweud y byddai’r “drws ar agor” i David Vaughan pe bai’n penderfynu dychwelyd i’r byd pêl-droed rhyngwladol.
Roedd Vaughan yn aelod o’r garfan ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc dros yr haf, ond ni chafodd y chwaraewr canol cae gyfle i ddod i’r cae.
Cyhoeddodd ei ymddeoliad o’r byd pêl-droed rhyngwladol ar drothwy’r ymgyrch ddiweddaraf, wrth i Gymru geisio sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth yn Rwsia yn 2018.
Enillodd Vaughan 42 o gapiau i Gymru, gan sgorio un gôl ar ôl ymddangos yng nghrys ei wlad am y tro cyntaf yn 2003.
Wrth gyhoeddi ei garfan, dywedodd Coleman am Vaughan: “Fe wnaeth e egluro ei fod yn ymddeol. Doedd dim esboniad, wir.
“Fe wnes i drio newid ei feddwl. Ond mae e am ganolbwyntio ar ei yrfa gyda’i glwb [Nottingham Forest]. Ond pe bai e’n newid ei feddwl, byddai’r drws ar agor iddo fe.”