Sgoriodd dau chwaraewr eu goliau cyntaf i Aldershot, wrth iddyn nhw guro Wrecsam o 2-0 yn y Gynghrair Genedlaethol.

Aeth y Saeson ar y blaen drwy Shamir Fenelon wedi tair munud, a wnaeth y Cymry ddim ergydio unwaith tua’r gôl yn yr hanner cyntaf.

Dyblodd Aldershot eu mantais ar ôl 58 munud drwy Scott Rendell oddi ar groesiad isel gan Bernard Mensah i’r cwrt cosbi.

Aldershot: Smith, Arnold, Evans, Bellamy, Alexander, Reynolds, Gallagher, Fenelon (Kellerman), Rendell (Wakefield), McClure, Mensah (Allen)

Goliau: Fenelon, Rendell

Cardiau melyn: 

Wrecsam: Dunn, Bencherif, Riley, Rooney, Newton, Evans (Powell), Barry (Oluwabunmi Bakare), Carrington, Rutherford, McDonagh, Harvey (Nortey) 

Cardiau melyn: Rooney, Rutherford

Torf: 1,907