Sgoriodd Jamie Turley ar ôl 34 munud i sicrhau triphwynt i Gasnewydd yn Leyton Orient.

Hon oedd ei gôl gyntaf i’r clwb, a hyny o ongl dynn ar ôl i Marlon Jackson groesi o gic gornel.

Daeth cyfle hwyr i’r Saeson unioni’r sgôr ond fe fethodd Ollie Palmer â’i ben.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Casnewydd ers mis Mawrth, a’u buddugoliaeth gyntaf oddi cartref yn Leyton Orient ers 34 o flynyddoedd.

Maen nhw’n 12fed erbyn hyn yn yr Ail Adran.

Leyton Orient: Cisak, Clohessy, Erichot, Parkes, Semedo, Massey, Weir (Cornick), Kelly, Cox (Atangana), McCallum (Bowery), Palmer

Cardiau melyn: 

Casnewydd: Day, Turley, Jones, Bennett, Butler, Green (Barnum-Bobb), Randall (Owen-Evans), Labadie, Myrie-Williams (Tozer), Rigg, Jackson

Goliau: Turley (34)

Cardiau melyn: Randall, Labadie

Torf: 4,184