Sgoriodd Leroy Fer ei gôl gyntaf i Abertawe wrth i’r Elyrch sicrhau triphwynt yn Burnley ar ddiwrnod cynta’r tymor newydd.
Doedd Burnley, sydd newydd ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair, ddim wedi colli ers Dydd San Steffan y llynedd.
Treuliodd yr Iseldirwr Fer y tymor diwethaf ar fenthyg yn Abertawe, ond fe sicrhaodd e drosglwyddiad parhaol dros yr haf, wrth i’r Elyrch golli nifer o chwaraewyr blaenllaw, gan gynnwys Andre Ayew a’r capten Ashley Williams.
Serch hynny, mae’n wawr newydd yn ne Cymru o dan Francesco Guidolin, sy’n dechrau ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr.
Fe fydd rhaid aros ychydig yn hirach i weld yr ymosodwr newydd Borja Baston, sydd wedi symud i Abertawe o Atletico Madrid am £15.5 miliwn, sy’n record i’r Cymry.
Doedd dim lle yn y garfan ychwaith i Gylfi Sigurdsson na Neil Taylor, sy’n parhau i orffwys ar ôl Ewro 2016.
Daeth cyfle cynnar i’r Saeson drwy Scott Arfield, ond fe gafodd yr ergyd ei harbed gan Lukasz Fabianski ac fe reolodd chwaraewyr canol cae’r Elyrch y gêm am gyfnod helaeth o’r hanner cyntaf wedi hynny.
Daeth sawl hanner cyfle i’r ymosodwr newydd arall, Fernando Llorente ond doedd yr Elyrch ddim wir wedi peri unrhyw fath o fygythiad i Burnley yn yr hanner cyntaf ac eithrio un ergyd hwyr gan Wayne Routledge, aeth heibio’r postyn o ymyl y cwrt cosbi a hanner cyfle i Jordi Amat o gic gornel i ganol y cwrt cosbi.
Daeth sawl cyfle cynnar yn yr ail hanner i Burnley, a’r gorau ohonyn nhw gan ymosodwr Cymru Sam Vokes, ond fe lwyddodd Fabianski i gael llaw i’r bêl.
Gyda hynny, daeth Sigurdsson i’r cae ac fe fu’n rhaid i Tom Heaton arbed cic rydd gan y chwaraewr o Wlad yr Iâ. O’r gic gornel a ddilynodd, daeth cyfle i Federico Fernandez ond aeth y bêl dros y trawst.
Apeliodd Burnley am gic o’r smotyn yn hwyr yn yr ail hanner wrth i Fer daclo Dean Marney, ond roedd hynny wedi ysgogi’r Elyrch i gynyddu’r pwysau ar eu gwrthwynebwyr.
Croesodd Montero y bêl ar ôl curo Matthew Lowton, ac roedd Llorente yn barod i benio’r bêl tua’r gôl. Cafodd ei beniad ei arbed, ond roedd Fer wrth law i daro’r bêl i gefn y rhwyd.
Burnley: Heaton, Lowton, Keane, Mee, Ward, Boyd, Marney, Jones (Jutkiewicz), Arfield (Berg Gudmundsson), Gray, Vokes
Cardiau melyn: Lowton, Ward, Jones
Abertawe: Fabianski, Naughton, Fernandez, Amat, Kingsley, Cork, Britton (Sigurdsson), Fer, Barrow (Montero), Llorente, Routledge (Rangel)
Goliau: Fer (82)
Cardiau Melyn: Fernandez, Amat
Torf: 19,126