Ail wynt i amddiffynnwr Cymru yn B6?
Mae amddiffynnwr Cymru, James Chester yn paratoi i chwarae yn y Bencampwriaeth ar ôl symud o West Brom i’w cymdogion Aston Villa am ffi sydd heb gael ei ddatgelu.

Ac mae un arall o chwaraewyr Cymru, y chwaraewr canol cae Emyr Huws yn ôl yng Nghymru ar ôl symud i Gaerdydd o Wigan Athletic.

Roedd Chester yn un o hoelion wyth Cymru allan yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016, ond roedd o wedi’i chael yn anodd sicrhau ei le yn nhîm cyntaf West Brom ers tro.

Mae’n ymuno â thîm Villa sy’n ail-adeiladu yn dilyn eu cwymp o Uwch Gynghrair Lloegr, ond mae’r tîm wedi colli eu dwy gêm agoriadol y tymor hwn.

Dydy Emyr Huws, 22, ddim wedi chwarae’r tymor hwn eto oherwydd anaf i’w ffêr, ond efallai y bydd yn cael ei gyfle cyntaf i Gaerdydd yn erbyn QPR ddydd Sul wedi iddo gwblhau ei drosglwyddiad.