Enillodd y nofwraig Jazz Carlin ail fedal arian yn Rio nos Wener wrth iddi orffen yn ail yn y ras 800 metr dull rhydd.
Yr Americanes Katie Ledecky gipiodd y fedal aur – ei phedwaredd medal aur – wrth orffen y ras mewn wyth munud, a 4.79 eiliad, gan dorri ei record byd ei hun a gorffen mwy nag 11 o eiliadau o flaen y Gymraes.
Ledecky gipiodd y fedal aur o flaen Carlin yn y ras 400 metr hefyd, yn gynharach yr wythnos hon.
Cael a chael oedd hi rhwng Carlin a Boglarka Kapas o Hwngari drwy gydol y ras, ond Carlin aeth â hi yn y pen draw.
Bydd y fedal arian yn gwneud yn iawn yn rhannol am siom Carlin wrth iddi fethu â chystadlu yn Llundain bedair blynedd yn ôl oherwydd salwch.
Dywedodd hi: “Yn amlwg, mae hi wedi bod yn wythnos galed a dw i wedi bod yn teimlo braidd yn sâl dros y dyddiau diwethaf ond dyma oedd y tro olaf i fi nofio yn y Gemau Olympaidd ac ro’n i am fynd allan a gwneud y gorau allwn i.
“Dw i’n hapus i gael fy llaw ar y wal mewn amser solet. Pe bai rhywun wedi dweud wrtha i bedair blynedd yn ôl y bydden i’n sefyll ar y podiwm ddwywaith gyda dwy fedal arian, bydden i wedi dweud nad oedd yn bosib.”
Mae Prydain bellach wedi ennill pum medal yn y pwll yn Rio – eu cyfanswm mwyaf ers Gemau Olympaidd Los Angeles yn 1984.