Symudodd Jazz Richards i Fulham o Abertawe fis Ionawr y llynedd
Mae adroddiadau’n awgrymu bod Clwb Pêl-droed Caerdydd ar fin arwyddo cyn-amddiffynnwr Abertawe, Jazz Richards o Fulham.

Roedd Richards yn aelod o garfan Cymru yn ystod Ewro 2016 yn Ffrainc, gan ddod oddi ar y fainc ar gyfer un gêm.

Mae lle i gredu bod rheolwr Caerdydd, Paul Trollope yn credu y byddai Richards yn ffitio i mewn i ddull 5-3-2 y clwb, yr un system ag sy’n cael ei defnyddio gan Gymru.

Symudodd Richards i Fulham o Abertawe fis Ionawr y llynedd.

Mae Caerdydd eisoes wedi arwyddo’r ymosodwyr Kenneth Zohore a Frederic Gounongbe.

Mae adroddiadau hefyd yn awgrymu y gallai’r asgellwr David Cotterill, un arall o garfan Cymru yn Ffrainc, symud i Gaerdydd.