Mae’r ddau droellwr o Gymru, Andrew Salter ac Owen Morgan wedi’u cynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer eu hymweliad blynyddol â Bae Colwyn ddydd Sul, lle byddan nhw’n herio Swydd Derby yn ail adran y Bencampwriaeth.

Mae’r batiwr Chris Cooke a’r troellwr Dean Cosker allan o’r garfan o hyd, ac mae’r batiwr Colin Ingram a’r bowliwr cyflym o’r Iseldiroedd, Timm van der Gugten yn cael gorffwys.

Gwnaeth y Cymro Cymraeg Morgan greu argraff yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i Forgannwg yn Hove yn erbyn Swydd Sussex, wrth iddo gipio dwy wiced.

Mae Salter, y troellwr o Sir Benfro, hefyd yn gobeithio creu argraff ar ôl dychwelyd ar ôl datgymalu ei fys.

Mae’r batiwr agoriadol o Awstralia, Nick Selman yn cadw ei le ar ôl taro hanner canred yr wythnos diwethaf.

Mae bowliwr Swydd Derby Will Davis wedi’i gynnwys yng ngharfan yr ymwelwyr wedi anaf.

Hwn yw ymweliad cynta’r gwrthwynebwyr â Bae Colwyn ers 1966.

Chesney Hughes a Wayne Madsen yw batwyr gorau Swydd Derby y tymor hwn. Mae Hughes wedi sgorio 664 o rediadau yn y Bencampwriaeth ar gyfartaledd o fwy na 60, tra bod Madsen wedi sgorio 761 o rediadau, gan gynnwys pedwar canred.

Carfan Morgannwg: M Wallace, N Selman, W Bragg, J Rudolph (capten), A Donald, D Lloyd, G Wagg, C Meschede, A Salter, O Morgan, M Hogan, J Murphy

Carfan Swydd Derby: B Godleman (capten), H Rutherford, C Hughes, W Madsen, N Broom, B Slater, S Thakor, R Hemmings, M Critchley, H Hosein, T Palladino, W Davis, B Cotton