Chris Coleman yn barod i fwynhau'r gystadleuaeth
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud nad oes gan Gymru ddim i’w ofni ar ôl sicrhau buddugoliaeth o 2-1 dros Slofacia yn Bordeaux yn eu gêm gyntaf yn Ewro 2016 nos Sadwrn.

Roedd goliau gan Gareth Bale a Hal Robson-Kanu yn ddigon i sicrhau’r triphwynt sy’n rhoi Cymru ar frig tabl Grŵp B.

Dywedodd Coleman ar ddiwedd y gêm: “Fe wnawn ni fwynhau eiliadau fel hyn os gwnawn ni beth wnaethon ni heddiw.

“Dyw e ddim yn fater o ddod yma a’i fwynhau e a mynd adref a gwneud esgusodion am y ffaith mai dyma ein twrnament cyntaf.

“Does dim byd i’w ofni, hyd yn oed weithiau os ydych chi’n ofni’r hyn nad ydych chi’n ei wybod.

“Rhaid i ni fynd o gwmpas ein pethau ac os gwnawn ni hynny, mae yna siawns y cawn ni’r hyn sydd ei angen arnon ni.”

Fe allai un pwynt ychwanegol o blith y gemau yn erbyn Lloegr a Rwsia fod yn ddigon i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd rownd yr 16 olaf.

Lloegr fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru brynhawn dydd Iau, ac mae Coleman yn cyfaddef y bydd hi’n her i’w dîm.

Yn ôl Coleman, mae’r ffaith mai Lloegr fydd y ffefrynnau yn debygol o weithio o blaid Cymru.

“Fe allai hynny fod yn fanteisiol i ni ac os ydy ni’n ni ein hunain yna fe allai fod yn ddigon i gael yr hyn ry’n ni am ei gael.”

Roedd Coleman yn barod i ganmol Gareth Bale, a sgoriodd o gic rydd uniongyrchol i roi Cymru ar y blaen yn erbyn Slofacia.

“Bydd pawb yn edrych ar gôl Gareth, ond roedd rhai o’i eiliadau gorau tua diwedd y gêm pan oedd hi’n 2-1.

“Fe ddefnyddiodd ei ddeallusrwydd. Roedd e, yn syml iawn, yn penio’r bêl allan er mwyn gwastraffu amser. Doedd e ddim yn bert ond fe wnaeth e roi popeth i sicrhau’r fuddugoliaeth i Gymru.

“Roedd e’n gwybod nad oedd y cyfan o gwmpas Gareth Bale, Cymru sy’n bwysig.”