Chris Coleman yn datgelu 'tactegau' Cymru (Llun:Joe Giddens/PA)
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi caniatáu i’w chwaraewyr grwydro o gwmpas yr ardal ble maen nhw’n aros yn Llydaw am ei fod yn bendant o’r farn nad yw eisiau i’r gwersyll deimlo fel ‘carchar’ iddyn nhw.

Fe gyrhaeddodd y garfan eu gwesty yn Dinard nos Sul, ac maen nhw wedi bod yn ymarfer yno drwy’r wythnos wrth baratoi i herio Slofacia yn eu gêm agoriadol yn Ewro 2016 brynhawn Sadwrn.

Ac er bod y rheolwr wedi gwahardd gwragedd a chariadon y chwaraewyr rhag bod yn y gwersyll, mae wedi ymlacio’r rheolau wrth ganiatáu iddynt adael y gwersyll o bryd i’w gilydd.

Roedd ganddo hyd yn oed amser yn ystod y sesiwn ymarfer i dynnu coes staff hyfforddi Lloegr, oedd wedi ‘datgelu’ tactegau eu tîm nhw ar ddamwain ar ôl gadael i ffotograffwyr dynnu llun o’u papurau ddydd Mawrth.

‘Dim problem’

Yn ôl Coleman, roedd yn awyddus i chwaraewyr Cymru gael ymlacio cymaint â phosib yn eu gwersyll ger porthladd St Malo ar arfordir gogleddol Ffrainc.

Ond fe ddywedodd bod staff y tîm wastad yn gwybod ble byddan nhw ar unrhyw deithiau allan o’r gwersyll, a hynny er mwyn ateb gofynion UEFA ynglŷn â chynnal profion cyffuriau.

“Dw i ddim eisiau eu cloi nhw lan,” meddai’r rheolwr.

“Dw i’n gwybod sut griw ydi’n grŵp ni a dyw eu cloi nhw lan ddim yn dda iddyn nhw, dydyn nhw ddim wedi arfer â hynny.

“I dimau sydd yn cyrraedd y twrnamentau pêl-droed o hyd mae’n wahanol. Ond os yw’n bechgyn ni eisiau mynd mas am dro, cael coffi a dianc o amgylchedd y gwesty, does gen i ddim problem â hynny.”

Datgelu tactegau?

Mae Coleman hefyd yn aros i weld sut y bydd Joe Ledley, Joe Allen a Hal Robson-Kanu’n ymarfer yr wythnos hon ar ôl gwella o anafiadau cyn penderfynu pwy fydd ei dîm i wynebu Slofacia ddydd Sadwrn.

Fe gyfaddefodd y rheolwr nad oedd yn debygol o gymryd y risg o enwi’r tri, ac mai Ledley oedd fwyaf tebygol o ddechrau ar y fainc beth bynnag.

Cafodd lluniau eu tynnu o sesiwn ymarfer ddiweddaraf Cymru hefyd yn dangos Coleman yn dal darn o bapur oedd i’w weld yn datgelu beth oedd ei dîm a’i dactegau.

Ond jôc gan y rheolwr oedd hi, gydag enwau mawrion o’r byd pêl-droed fel Pele, Maradona a Zico wedi’u hysgrifennu arni.

Fe ddaeth hynny ddiwrnod yn unig ar ôl i ffotograffwyr ddal un o hyfforddwyr Lloegr Ray Lewington yn dal darn o bapur oedd â thactegau’r Saeson arni, gyda’r awgrym y byddai Harry Kane a Jamie Vardy yn chwarae yn yr ymosod a Wayne Rooney’n cael ei ddefnyddio yng nghanol cae.